Llogi

Lle i ddathlu. Lle i gwrdd.

Wedi'i lleoli yng nghanol Caerdydd, Theatr y Sherman yw'r lleoliad delfrydol i gynnal digwyddiad ym mhrifddinas Cymru. Gydag ystod eang o ofodau hyblyg a hygyrch ar gael, rydym yn cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau.

Yn yr adrannau isod gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ein gwasanaethau a dilyn y dolenni i gael mwy o wybodaeth am bob un o’n gofodau. Mae Theatr y Sherman yn adnabyddus am ei chroeso cynnes ac edrychwn ymlaen at eich gwasanaethu chi a’ch gwesteion. Beth bynnag fo’ch gofynion, o rai technegol i letygarwch, mae ein tîm profiadol ac arbenigol o weithwyr proffesiynol wrth law i gyflwyno’ch digwyddiad. Cysylltwch â ni heddiw a byddwn yn llunio pecyn penodol sy’n cyflwyno’r hyn sydd ei angen arnoch chi yn eich digwyddiad.

Arlwyo

Darperir ein holl arlwyo yn fewnol yn Theatr y Sherman gan ein tîm Caffi Bar. Gallwn ddarparu ystod lawn o opsiynau ar gyfer eich digwyddiad. O fwffe poeth ac oer a thê prynhawn i dderbyniadau diodydd arbennig a phwrpasol.