Ysgolion A Cholegau

Mae dod â grŵp ysgol i Theatr y Sherman yn hawdd ac yn ddi-drafferth.
Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau a chyfleusterau a fydd yn eich helpu chi a'ch grŵp i wneud y gorau o'ch ymweliad.

Gostyngiadau
Ar gyfer y mwyafrif o sioeau (gan gynnwys holl gynyrchiadau’r Sherman), mae athrawon yn gallu cael tocyn am ddim (1 i bob 10 disgybl).

Cyrraedd yma
Mae mannau gollwng a chasglu cyfleus ar gyfer bysiau wedi’u lleoli’n agos iawn at y theatr.

Eich ymweliad
Gallwch archebu ystod o luniaeth ymlaen llaw ar gyfer eich grŵp (yn aml am bris gostyngedig) gan gynnwys hufen iâ, diodydd a blychau cinio.

Gweithgareddau ac adnoddau
Mae ein tîm Ymgysylltu Creadigol yn cynnig ystod o weithgareddau i wneud y mwyaf o ymweliadau ysgolion a cholegau â Theatr y Sherman, gan gynnwys gweithdai pwrpasol, gweithgareddau y tu ôl i’r llenni, cynllun Mabwysiadu Actor, a sgyrsiau a thrafodaethau ar ôl y sioe. Gall ein tîm deilwra y gweithgareddau addysg i ddiwallu anghenion cwricwlwm penodol neu anghenion eich grŵp. Mae’r tîm hefyd yn cynnig adnoddau dysgu AM DDIM sydd wedi derbyn canmoliaeth fawr, ar gyfer y rhan fwyaf o gynyrchiadau Theatr y Sherman.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk.