Mae eich cefnogaeth nawr yn bwysicach nag erioed.
Fel elusen gofrestredig, mae Theatr y Sherman yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i sicrhau ein bod yn aros wrth galon ein cymuned fel lle i bawb.
Gall theatr newid bywydau. Bydd eich cefnogaeth chi yn ein helpu ni i wneud hynny.
Trwy gefnogi Theatr y Sherman byddwch yn ein galluogi ni i barhau i wneud y canlynol:
● Creu a chyflwyno theatr gafaelgar i bobl Caerdydd a thu hwnt
● Meithrin artistiaid o Gymru
● Darganfod a chefnogi lleisiau amrywiol ac unigryw ym myd y theatr
● Ehangu a chyfoethogi y dramâu sydd ar gael yn Gymraeg
● Cynorthwyo ein pobl ifanc trwy ein rhaglen Ymgysylltu Creadigol
● Cysylltu â’n cymunedau trwy ein gwaith datblygu cynulleidfaoedd
Ffrydd o gefnogi
Sherman +
Manteisiwch ar y theatr
Mabwysiadu Sedd
Rhowch anrheg arbennig i unrhywun sy’n caru’r theatr
Cynllun Buddiolwyr
Ewch â’ch cefnogaeth ar gyfer Theatr y Sherman i’r lefel nesaf
CYFRANNWCH
Cefnogwch ein gwaith heddiw
Cofrestrwch