Rhannwch Eich Angerdd

Mae gwneud cyfraniad ar ffurf Rhannwch Eich Angerdd yn ffordd berffaith o drosglwyddo’ch cariad at y theatr.
Gallwch ddewis beth yr hoffech gefnogi gyda'ch rhodd:

Rhannwch Eich Angerdd Cynulleidfaoedd ac Ymgysylltuhelpwch ni i barhau i gyflawni ein gwaith ymgysylltu creadigol ac allgymorth.

  • Mae gwaith ein tîm Ymgysylltu Creadigol yn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y celfyddydau trwy ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc. Gall y gwaith hwn fod ar ffurf sgyrsiau yn yr ysgol, gweithdai, a theithiau o amgylch yr adeilad (wyneb yn wyneb ac yn ddigidol). 
  • Trwy ein haelodaeth Theatr Ieuenctid mae 80 o bobl ifanc rhwng 4 a 18 oed yn dysgu sgiliau newydd, yn magu hyder ac yn cael hwyl. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu creadigol i unrhyw un 18+ oed trwy ein cwmni amatur, Sherman Players. 
  • Yn ystod ein blwyddyn hanner canmlwyddiant, croesawodd ein Gŵyl Theatr Ieuenctid ym mis Ebrill 2023 134 o bobl ifanc i’r Sherman i gymryd rhan mewn perfformiadau, gweithdai a chyfleoedd hyfforddi. 
  • Mae perfformiadau Paned a Stori yn ystod y dydd yn gyfle delfrydol i aelodau hŷn ein cynulleidfa gymdeithasu a mwynhau darlleniadau sgript o wahanol ddramâu. Yn cael eu perfformio yn y Sherman ac mewn lleoliadau cymunedol ledled Caerdydd, mae perfformiadau Paned a Stori yn denu cynulleidfa o tua 300 o bobl dros 50 oed yn flynyddol. 
  • Rydym yn falch o’n statws fel Theatr Noddfa ac yn dathlu ein cymuned fywiog o Geiswyr Noddfa trwy ein rhaglen o weithdai creadigol, Gŵyl Noddfa flynyddol a gwaith ymgysylltu â’r gynulleidfa. 

Rhannwch Eich Angerdd Datblygu Artistiaidcefnogwch ein gwaith i feithrin artistiaid Cymreig a’n byw yng Nghymru.

  • Ers ei lansio yn 2018, mae ein rhaglen rad ac am ddim, Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, wedi ymgysylltu â 74 o ysgrifenwyr ifanc 15-18 oed. 
  • Gyda chefnogaeth ein hadran Lenyddol, mae 273 o ysgrifenwyr Cymreig a’n byw yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn gweithdai i ysgrifenwyr, rhaglenni datblygu, digwyddiadau arddangos a chyflwyno sgriptiau dros y 12 mis diwethaf. 
  • Bob blwyddyn rydym yn cynnig swyddi dan hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman i ddylunwyr a chynorthwywyr a chyfarwyddwyr cyswllt, yn cefnogi nifer o brofiad gwaith technegol yn ein hadran Gynhyrchu, ac yn cynnig profiad gwaith gyda’n tîm Ymgysylltu Creadigol. 
  • Ers 2015 rydym wedi comisiynu a chynhyrchu gwaith gan 23 o ysgrifenwyr Cymreig a’n byw yng Nghymru, ac mae gennym 7 ysgrifennwr arall ar gomisiwn i gynhyrchu gwaith yn 2024/25 ar hyn o bryd. 
  • Ers mis Ebrill 2020 rydym wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth â thâl i dros 550 o artistiaid a chrewyr theatr llawrydd. Rydym hefyd yn darparu cymorth ar ffurf nwyddau i artistiaid unigol a chwmnïau theatr newydd, ac ar hyn o bryd mae gennym ddau gwmni preswyl, Red Oak Theatre a PowderHouse. 

Gallwch hefyd ddewis sut yr hoffech chi gyfrannu: 

  • Gwnewch gyfraniad ar y dudalen hon, gan ddewis faint yr hoffech ei gyfrannu a pha faes o’n gwaith yr hoffech ei gefnogi. 
  • Prynwch docyn Rhannwch Eich Angerdd i weld cynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman. Wrth archebu, dewiswch unrhyw opsiwn i brynu tocyn Rhannwch Eich Angerdd; mae pob un o’r opsiynau tocynnau hyn yn cynnwys rhodd o £10 i Theatr y Sherman. 
Rhannwch eich Angerdd

Rhannwch eich angerdd dros ein gwaith, drwy ei dalu ymlaen. Bydd eich rhodd heddiw yn sicrhau bod mwy o bobl yn elwa o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, a gallwch ddewis pa ran o’n gwaith hoffech chi ei gefnogi. I alluogi fwy o bobl i brofi grym trawsnewidiol y theatr, dewiswch yr opsiwn Cynulleidfaoedd ac Ymgysylltu. I gefnogi ein gwaith yn meithrin artistiaid sy’n byw ac yn dod o Gymru, dewiswch Datblygu Artistiaid.