Cynhyrchu

Darganfyddwch fwy am dîm Cynhyrchu Theatr y Sherman

Mae'r tîm Cynhyrchu yn Theatr y Sherman yn dod ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd ynghyd er mwyn helpu i greu theatr.

Mae’r tîm yn gyfrifol am:

• Gynllunio cynyrchiadau’r Sherman
• Adeiladu a phaentio setiau a chreu gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau’r Sherman
• Gweithio gyda dylunwyr i wireddu y dyluniadau goleuo, sain a chlyweledol
• Rheoli llwyfan
• Darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer sioeau teithiol a chwmnïau gwadd
• Cynnal a chadw gwisgoedd a phropiau

Os ydych chi’n ystyried dod â’ch cynhyrchiad i Theatr y Sherman, mae’r rhan hon o’r wefan yn cynnwys gwybodaeth dechnegol gynhwysfawr. Yn yr adran hon byddwch hefyd yn gallu darganfod mwy am y gwasanaethau y mae ein tîm Cynhyrchu yn eu cynnig.