Dewch i gymryd rhan yn Theatr y Sherman
Mae mwy i theatr na gwylio sioe – mae byd y theatr yn rhywbeth y gallwch fod yn rhan ohono. Weithiau, mae bod yn rhan o theatr yn teimlo fel bod yn rhan o deulu. Beth am ymuno â’n teulu ni?
Mae cymaint o ffyrdd i gymryd rhan yn Theatr y Sherman. Gall pobl ifanc fwynhau ein rhaglenni perfformio ac ysgrifennu. Mae unrhywun sy’n 18 neu’n hŷn sydd eisiau perfformio, gwneud ffrindiau a chael digon o hwyl yn gallu ymuno â Sherman Players. Gwahoddir aelodau o’r gymuned sydd ddim yn gyfarwydd â’r theatr rhoi tro arni gyda Sherman 5. Mae stiwardiaid gwirfoddol, sy’n croesawu ein cynulleidfaoedd, yn mwynhau sioeau arbennig am ddim. Gall ysgolion a cholegau gymryd mantais o’n rhaglennu ac adnoddau addysg yn rhad ac am ddim.
SUT Y GALLWCH GYMRYD RHAN
Lawrlwythwch a darllenwch ein dogfennau polisi.