Sherman 5

Rydyn ni yma i sicrhau fod Theatr y Sherman mor agored ac mor hygyrch â phosib, a helpu pobl i oresgyn unrhyw rwystrau personol neu ymarferol sy’n eu hatal rhag ymweld â’n theatr. Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i bobl ddod i wylio ein perfformiadau gan gynnwys sioeau sioeau teuluol, drama, dawns a chomedi.

Rydyn ni’n gweithio’n agos ag unigolion a grwpiau o’r cymunedau canlynol:

• Ceiswyr Noddfa a Ffoaduriaid
• Pobl hŷn
• Pobl B/byddar
• Pobl â Nam Golwg
• Teuluoedd

Gall unigolion a grwpiau cymunedol wneud cais i fod yn aelodau Sherman 5. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn cynnig cynifer o fanteision gwych.

Megis dechrau yw gwylio sioeau. Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyfleoedd i aelodau fedru dysgu sgiliau newydd trwy weithdai a chyrsiau hyfforddi. Mae aelodau hefyd yn dod yn rhan o gymuned ble y cânt gyfarfod pobl newydd a chreu ffrindiau newydd. Caiff aelodau Sherman 5 hefyd y cyfle i fod yn rhan o fywyd a gwaith Theatr y Sherman mewn cynifer o ffyrdd eraill, gan gynnwys fel gwirfoddolwyr.

Caiff Sherman 5 ei noddi gan Sefydliad Paul Hamlyn.