Amdanom Ni

I Gaerdydd, i Gymru, i bawb.

Theatr i Gymru yng Nghaerdydd

Dychmygwch fyd lle gall pŵer y theatr greu byd tecach, mwy tosturiol ac unedig. Cawn ein hysgogi i gyflawni’r weledigaeth yma yn ddyddiol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy greu a churadu profiadau theatr byw i’w rhannu ac i ysbrydoli pobl o bob cefndir ar draws De Cymru i fedru gwneud byd gwell, yn eu ffordd eu hunain. Credwn fod pawb â’r hawl i gael mynediad at greadigrwydd a hunanfynegiant, ac ymdrechwn yn gyson i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael eu cyfoethogi gan y theatr.

Mae ein ffocws ar ddatblygu a chynhyrchu gwaith newydd ac ar feithrin artistiaid Cymraeg ac o Gymru yn ein gwneud ni’n injan i fyd y theatre yng Nghymru. Trwy ein cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman, rydym yn adrodd straeon Cymraeg sy’n cyseinio negeseuon o bwys yn fyd-eang, a chaiff pob un eu creu o dan ein to yng nghalon Caerdydd. Rydym yn le i bawb, gan greu cyfleoedd i bobl De Cymru gysylltu â’r theatr drwy ymrwymiad ysbrydoledig a gweledigaethol.

Beth ni’n ei wneud:
– Theatr eithriadol i bobl De Cymru a thu hwnt: Rydyn ni’n creu a churadu theatr ddyrchafol, ystyrlon a pherthnasol o’r ansawdd uchaf. Rydyn ni’n perfformio dramâu newydd sy’n adrodd straeon lleol ac yn atseinio’n fyd-eang. Rydyn yn awyddus i’n theatr ysgogi cynulleidfaoedd i feddwl am eu camau posib nesaf gall greu byd gwell.
– Meithrin ysgrifenwyr Cymreig ac sy’n byw yng Nghymru: Trwy ein cynlluniau datblygu artistiaid rydym yn cefnogi ysgrifenwyr ar bob lefel yn eu gyrfaoedd i hogi eu crefft, adrodd eu straeon a chreu gwaith deniadol i gynulleidfaoedd.
– Ysbrydoli pobl ifanc: Mae rhaglenni clodwiw ein Theatr Ieuenctid ac Ymgysylltu Creadigol yn helpu i greu pobl ifanc ymroddedig sydd â chymhelliant i gael effaith gadarnhaol ar y byd.
– Cysylltu ein cymunedau: Mae ein gwaith ymgysylltu arloesol gyda’r gymuned wedi’i gynllunio i gysylltu pobl sy’n wynebu rhwystrau wrth ymweld â’r theatr, cynorthwyo cydlyniad cymdeithasol ar draws De Cymru a helpu i fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol.

Mewn blwyddyn arferol:
– Rydym yn perfformio tua phedair drama newydd gan ysgrifenwyr Cymreig ac sy’n byw yng Nghymru
– Rydym yn creu cynhyrchiad newydd sbon o un o hoff glasuron y byd theatr yn ein Prif Theatr
– Dros y Nadolig rydym yn cynhyrchu sioe odidog yn y Brif Theatr i bawb dros 7 oed, ac yn y Stiwdio rydyn ni’n cyflwyno plant 3-6 oed i’r theatr gyda’n sioe ddwyieithog. Mae ein sioe i blant 3-6 oed ar daith ar draws De Cymru drwy gydol mis Tachwedd.
– Rydym yn curadu rhaglen fywiog o waith gan gwmnïau cenedlaethol a chwmnïau theatr flaenllaw, digrifwyr a phersonoliaethau
– Drwy gydol y flwyddyn mae’n Hadran Lenyddol yn cynnal amryw o gynlluniau datblygu artistiaid i gefnogi artistiaid sydd ar wahanol fannau yn eu gyrfaoedd
– Mae ein rhaglenni Theatr Ieuenctid, Sherman Players a Chyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn. Bob blwyddyn mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn llwyfannu dwy sioe a Sherman Players yn llwyfannu un.
– Mae ein gwaith Cymunedol yn parhau trwy gydol y flwyddyn

Cynhyrchiadau y Sherman ers 2015

2015
Iphigenia in Splott gan Gary Owen (dangosiad byd cyntaf) – hefyd yn y National Theatre, taith DU, Efrog Newydd a Schaubuhne Berlin
A Doll’s House gan Henrik Ibsen mewn fersiwn Saesneg gan Simon Stephens
The Lion, the Witch and the Wardrobe addasiad gan Theresa Heskins
The Princess and the Pea / Y Dywysoges a’r Bysen Fechan Fach (dangosiad byd cyntaf) gan Katherine Chandler mewn cyd-gynhyrchiad gyda  Theatr Iolo – a thaith De Cymru.

2016
Bird gan Katherine Chandler mewn cyd-gynhyrchiad gyda Royal Exchange, Manceinion
Love, Lies & Taxidermy gan Alan Harris (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Paines Plough a Theatr Clwyd
The Borrowers Addasiad gan Charles Way
The Emperor’s New Clothes / Dillad Newydd Yr Ymerawdwr gan Alun Saunders (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo – a thaith De Cymru.

2017
Killology gan Gary Owen (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Royal Court, Llundain
How My Light Is Spent gan Alan Harris (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Royal Exchange, Manceinion, a Theatre by the Lake, Keswick
The Cherry Orchard ail-ddychmygiad gan Gary Owen (dangosiad byd cyntaf)
The Wind in the Willows Addasiad gan Mike Kenny
The Magic Porridge Pot / Hud y Crochan Uwd gan Alun Saunders (dangosiad byd cyntaf) – a thaith De Cymru

2018
Dublin Carol gan Conor McPherson
The Motherf**ker with the Hat gan Stephen Adly Guirgus mewn cyd-gynhyrchiad gyda Tron Theatre (dangosiad cyntaf Cymreig)
Tremor gan Brad Birch (dangosiad byd cyntaf) – hefyd yn Paines Plough Roundabout (Theatr Clwyd a Gŵyl Caeredin)
Fel Anifail gan Meic Povey
Lord of the Flies Addasiad gan Nigel Williams mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Clwyd
Alice in Wonderland Addasiad gan Mike Kenny
Little Red Riding Hood / Yr Hugan Fach Goch a ddyfeisiwyd gan Gethin Evans (dangosiad byd cyntaf)

2019
Woof gan Elgan Rhys (dangosiad byd cyntaf)
The Taming of the Shrew mewn fersiwn newydd gan Jo Clifford, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Tron Theatre (dangosiad byd cyntaf)
Lose Yourself gan Katherine Chandler (dangosiad byd cyntaf)
Hedda Gabler gan Henrik Ibsen mewn fersiwn newydd gan Brian Friel
The Snow Queen gan Conor Mitchell (dangosiad byd newydd)
The Ugly Duckling / Yr Hwyaden Fach Hyll gan Katherine Chandler – a thaith De Cymru

2020
Tylwyth gan Daf James mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru (dangosiad byd cyntaf)

Yn ddigidol trwy gydol y cyfnod clo
Mum & Dad gan Gary Owen
TEN Plays gan Alexandria Riley, Alun Saunders, Connor Allen, Elin Phillips, Emma Cooney, Katie Elin-Salt, Kelly Jones, Owen Thomas, Rick Allden, Sarah Louise Madden
Heart of Cardiff audio plays gan Claire Boot, Emma Cooney, Emily Garside, Tim Green, Kyle Lima, Hannah McPake, Nia Morais, Mali Ann Rees, Owen Thomas ac Aled Wyn Thomas.

2021
The Merthyr Stigmatist gan Lisa Parry (dangosiad byd cyntaf digidol) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatre Uncut
Crafangau / Claws gan Nia Morais (dangosiad byd cyntaf)
Radical Reinventions: The Love Thief gan Rahim El Habachi (dangosiad byd cyntaf)
Radical Reinventions: The Messenger gan Seiriol Davies (dangosiad byd cyntaf)
Radical Reinventions: Hamlet is a F&£$boi gan Lowri Jenkins (dangosiad byd cyntaf)
Radical Reinventions: Tilting at Windmills gan Hannah McPake (dangosiad byd cyntaf)
A Christmas Carol Addasiad gan Gary Owen
The Elves and the Shoemaker / Y Coblynnod a’r Crydd gan Katherine Chandler – a thaith De Cymru

2022
Dance to the Bone gan Eleanor Yates ac Oliver Hoare (dangosiad byd cyntaf)
A Hero of the People gan Brad Birch ar ôl Henrik Ibsen
A Midsummer Night’s Dream gan William Shakespeare gydag addasiadau Cymraeg newydd gan Mari Izzard a Nia Morais
Tales of the Brothers Grimm gan Hannah McPake (dangosiad byd cyntaf)
Elen Benfelen / Goldilocks gan Elgan Rhys (dangosiad byd cyntaf) – a thaith De Cymru

2023
Romeo and Julie gan Gary Owen (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre
Imrie gan Nia Morais (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen – a daith o gwmpas Cymru
Housemates gan Tim Green (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Hijinx
Peter Pan gan Catherine Dyson (dangosiad byd cyntaf) mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo
Hansel and / a Gretel gan Katie Elin-Salt (dangosiad byd cyntaf) – a thaith De Cymru