Beth sy’n bwysig i ni

Mae Theatr y Sherman wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, ac yn Theatr Noddfa. Mae croeso i bawb yma. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib fwynhau a chymryd rhan mewn theatr, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i chwalu unrhyw rwystrau sy'n atal hynny rhag digwydd.

Ein Gweledigaeth
Lle mae theatr yn creu byd tecach, mwy tosturiol, mwy unedig.

Ein Cenhadaeth
Creu, curadu a rhannu profiadau theatr byw a fydd yn ysbrydoli pobl o bob cefndir yn Ne Cymru a thu hwnt i greu byd gwell. Ein cred ni yw bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at greadigrwydd a hunanfynegiant, ac ymdrechwn bob dydd i sicrhau bod gan bawb y cyfle i gael eu cyfoethogi gan y celfyddydau a’r theatr.

Ein Gwerthoedd
SBARDUNO: Mae ein gwaith yn alwad i weithredu i greu byd gwell.
ARDDERCHOG: Rydym yn ymrwymedig i gyflawni ardderchowgrwydd ym mhob agwedd o’n gwaith.
DYRCHAFOL: Dylai ein cynyrchiadau fod yn ffynhonnell o obaith a goleuni.
AGORED: Rydyn ni wastad ar agor – wastad yma.
GWYDNWCH: Rydym yn dîm bach ond cry’. Mae ein graddfa yn ein galluogi i fod yn wirioneddol hyblyg, ystwyth ac ymatebol.

Pwy Ydym Ni