Eich Ymweliad

Mae croeso cynnes Cymraeg yn disgwyl amdanoch.
Map data ©2024

CYRRAEDD Y SHERMAN

Mae Theatr y Sherman wedi ei lleoli yn Cathays, yng nghanol dinas Caerdydd. Mae cyrraedd y Sherman yn hawdd.


Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, Cathays,
Caerdydd, CF24 4YE

Mae Theatr y Sherman 10 munud ar droed o ardal siopa Heol y Frenhines.

Mae Theatr Sherman wedi’i leoli ar un o brif Feicffyrdd Cyngor Caerdydd. Mae raciau beic o flaen y fynedfa.

Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Cathays, sy’n ddwy funud ar droed o Theatr y Sherman.

Y maes parcio agosaf yw NCP Dumfries Place sy’n daith pum munud ar droed. Mae parcio ar gael ar hyn o bryd am £2.45 yr awr yn NCP Dumfries Place neu £1.45 yr awr trwy App NCP.

Mae modd parcio ceir ar y stryd ym Mharc Cathays, sydd ychydig dros 5 munud i ffwrdd ar droed. Ar hyd Ffordd Senghennydd mae parcio ar y stryd yn gyfyngedig iawn erbyn hyn. Mae yna nifer o fannau parcio Bathodyn Glas y tu allan i’r theatr

BWYD & DIOD

Bar Caffi Theatr y Sherman yw eich lle chi i fwyta, cael diod, i gyfarfod ac i weithio. Dyma un o fannau bwyta mwyaf trawiadol dinas Caerdydd.

Llu
9.00yb - 10.00yh
Maw
9.00yb - 10.00yh
Mer
9.00yb - 10.00yh
Iau
9.00yb - 10.00yh
Gwe
9.00yb - 10.00yh
Sad
9.00yb - 10.00yh
Sul
AR GAU
Cefnogwch ni

Gwnewch gyfraniad a chefnogwch ein gwaith heddiw