EICH DIGWYDDIAD

Dathliadau, derbyniadau a digwyddiadau cymdeithasol. Llogwch Theatr y Sherman i wneud eich digwyddiad yn wirioneddol gofiadwy.
Theatr y Sherman yw'r lle perffaith i gynnal eich digwyddiad. Mae dathliadau, derbyniadau, digwyddiadau cymdeithasol, seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau lansio yn dod yn fyw yn y Sherman. Bydd ein tîm Caffi Bar yn darparu pecynnau arlwyo blasus a gwasanaeth ymroddedig ac arbennig i'ch gwesteion.

Mae ein cyntedd yn eang ac unigryw. Gydag awyrgylch wefreiddiol mae’r cyntedd yn rhywle y gall eich gwesteion ymlacio a mwynhau eu hunain. Rydym wedi croesawu pob math o ddigwyddiadau o bartïon graddio i dderbyniadau priodas.

Mae’r cyntedd yn cynnig:

– Lleoliad unigryw ar gyfer eich digwyddiad
– Gofod wedi’i addurno’n fodern
– System sain
– Gofod arbennig o hygyrch

Fel arall, mae Stiwdio y Sherman yn ofod mwy agos atoch. Mae’n cynnig hyblygrwydd enfawr o ran cynllun eich digwyddiad.

Gall Theatr y Sherman hefyd wasanaethu fel lleoliad ar gyfer ffilmio.

Ar ôl i ni ddeall eich gofynion a dyfeisio pecyn ar eich cyfer, byddwn yn gofalu am bopeth fel y gallwch chi fwynhau’ch digwyddiad gymaint â’ch gwesteion.