Mae crewyr theatr yn ganolog i waith Theatr y Sherman.
Os ydych chi’n grëwr theatr, yn artist neu yn weithiwr llawrydd creadigol yng Nghymru neu o Gymru, mae’r rhan hon o’n gwefan wedi’i chynllunio ar eich cyfer chi. Dyma lle gallwch chi ddarganfod yr holl wybodaeth am ein rhaglenni meithrin artistiaid, a dod o hyd i adnoddau a gwybodaeth sy’n berthnasol i chi.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r adran hon i gysylltu â’n tîm Llenyddol er mwyn nodi diddordeb mewn rhaglen neu fenter.