ARBROFI

Cychwyn da i’ch prosiect gyda'n cefnogaeth ni.

Mae ARBROFI yn bennod newydd yn natblygiad artistiaid yn Theatr y Sherman. Mae'r rhaglen hon yn bodoli i gynnig amser Ymchwil a Datblygu gydag adnoddau ar gyfer prosiectau newydd gwefreiddiol. Mae ARBROFI yn rhaglen ymchwil a datblygu sydd wedi'i theilwra i'ch prosiect unigol chi: p'un a oes angen amser arnoch mewn ystafell gyda phobl greadigol eraill, neu ar eich pen eich hun, cysylltwch â ni!

Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy’n gydnaws â’n rhaglen gynhyrchu. Er enghraifft, oes gennych chi ddarn stiwdio newydd sy’n stori leol gyda chyrhaeddiad byd-eang, neu olwg newydd ar glasur bytholwyrdd ar gyfer y Prif Dŷ? Isod, fe welwch ragor o fanylion am sut mae ein rhaglenni’n gweithio fel bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn gwneud cais.

Mae’r prosiect hwn yn agored i artistiaid Cymraeg a Saesneg eu hiaith ond mae’n rhaid i chi fod yn y Gymro/Gymraes neu wedi’ch lleoli yng Nghymru i wneud cais. Byddai’n gyffrous iawn i glywed gan artistiaid o blith y mwyafrif byd-eang, artistiaid byddar neu anabl ac aelodau o’r gymuned LDHTCRhA+. Mae hwn yn gyfle cyflogedig.

Ar gyfer pwy mae’r prosiect?
Mae Arbrofi ar gyfer ysgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr o Gymru / wedi’u lleoli yng Nghymru sydd â rhywfaint o brofiad o greu gwaith.

Mae ceisiadau ar gyfer Arbrofi nawr ar gau.