Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin

Rhannwch
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Pleasance am y bumed flwyddyn eleni yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Yn 2026, rydym yn cefnogi Amnesia gan Kimberly Hart-Simpson – sioe un-fenyw eithriadol sy’n mynd i’r afael â phynciau trwm gyda chyffyrddiad ysgafn a chomig.

Mae Pleasance Theatre, sydd wrth galon Caeredin, yn gweithio gyda theatrau partner ledled y DU i nodi a chefnogi artistiaid a chwmnïau eithriadol sydd eisiau mynd â gwaith i’r Ŵyl Ymylol. Mae pob partner yn dŷ cynhyrchu cenedlaethol blaenllaw, gydag ymrwymiad i gefnogi a datblygu artistiaid newydd. Ynghyd â Theatr y Sherman, mae’r partneriaid yn cynnwys Theatre Royal Plymouth, Leicester Curve, Chichester Festival Theatre a Lyric Belfast, sydd oll yn cefnogi talent leol eithriadol ar gyfer yr ŵyl sy’n enwog ledled y byd.

Mae sioe eleni, Amnesia, wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Kimberly Hart-Simpson, a’i chyfarwyddo gan Kate Wasserberg mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd. Yn ddathliad di-flewyn-ar-dafod o fywydau trefi bach arfordirol sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, mae Amnesia yn taflu goleuni ar gymuned y Rhyl, realiti anodd dementia, gofal a bywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.

Mae Kelly, sy’n ofalwraig dementia yn y Rhyl (ac yn ferch i ddau berfformiwr sy’n dynwared Tom Jones), yn wych yn ei gwaith. Boed yn Edna, sy’n licio cnoi, neu Astrid, sy’n meddwl mai bin yw ei nain, mae Kelly wastad yn gwybod yn union beth i’w wneud. 

Wedi’i magu’n falch ar ClubLand, y waltzers a threulio’i hafau’n cusanu scousers, mae hi’n gandryll ar ôl darganfod bod ei ffrind gorau yn symud i ddinas sydd â Pret. Wrth guddio ei newyddion mawr ei hun, mae’n dechrau colli rheolaeth ar ei bywyd ac mewn perygl o golli’r cyfan. 

Cyn mynd ymlaen i Ŵyl Ymylol Caeredin, bydd Amnesia yn ymuno â rhaglen Theatr y Sherman am nifer gyfyngedig o ragddangosiadau ar 16, 17 a 18 Gorffennaf 2026 am 8pm.

Partneriaeth Genedlaethol Caeredin Theatr y Sherman gyda’r Pleasance

Mae’n bleser gweithio gydag amrywiaeth fywiog o artistiaid o Gymru ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd, a’u cefnogi wrth iddynt fynd â’u gwaith i Ŵyl Ymylol Caeredin bob blwyddyn. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae pedair sioe flaenorol wedi ennill cydnabyddiaeth a chanmoliaeth haeddiannol gan gyfoedion, gwobrau a chynulleidfaoedd, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld Amnesia yn ymuno â’r rhestr honno.

Yn 2025, bu Relay gan Leila Navabi yn llwyddiant ysgubol, gan berfformio i gynulleidfaoedd llawn drwy gydol ei chyfnod yng Nghaeredin.

Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yng Nghaeredin yn 2024, aeth derbynwyr ein Partneriaeth Genedlaethol Caeredin, Polly & Esther, ymlaen i berfformio eu sioe yng Ngŵyl Ymylol Adelaide yng ngwanwyn 2025.

Yn 2023, aeth CHOO CHOO! (Or… Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have)) gan StammerMouth i Ŵyl Ymylol Caeredin gyda chefnogaeth Theatr y Sherman, lle enillodd Wobr Fringe First a Gwobr Sefydliad Iechyd Meddwl 2023 y Fringe.  

Yn 2022, roedd An Audience With Milly-Liu gan François Pandolfo yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd. Mewn cydweithrediad â’r Sherman a’r Pleasance, a gyda chefnogaeth The Other Room, enillodd y sioe drag cath un-dyn Wobr gyntaf David Johnson ar gyfer Talent Newydd.