YMESTYN

Datblygu eich crefft ymhellach fel dramodydd, gydag YMESTYN.

Rhannwch
Mae YMESTYN nôl! Yn dilyn blwyddyn hynod lwyddiannus yn 2023, mae’r gyfres rad ac am ddim yma o sesiynau hyfforddiant modiwlaidd, byr yn dychwelyd gyda rhai o raglenni mwyaf poblogaidd llynedd, yn ogystal â chwrs newydd trwy'r iaith Gymraeg.

Mae pob rhaglen yn arbenigo mewn ymchwilio meysydd penodol o ysgrifennu dramâu, a fydd yn eich cefnogi i ysgrifennu eich drama nesaf gyda gwell hyder a sgil.

Bydd aelodau o dîm Artistig Theatr y Sherman yn cynnal tri chwrs eleni. Bydd sesiynau yn rhedeg o 6yh – 8yh.

Ar gyfer pwy mae YMESTYN?
Rydyn ni’n rhagweld y bydd y rhan fwyaf o gyfranogwyr wedi ysgrifennu o leiaf un ddrama lawn ac yn ceisio dyfnhau eu dealltwriaeth o dechnegau penodol wrth ysgrifennu dramâu.

Pa gyrsiau fyddwch chi’n eu cynnig eleni?

YMESTYN 1: Ailysgrifennu yw Ysgrifennu (3 Medi – 1 Hydref)
Yn dychwelyd yn ôl y galw!
Archwiliad trylwyr o’r broses o ailddrafftio drama.
Bydd y cwrs hwn yn ystyried y gwahaniaeth rhwng golygu, ailysgrifennu a rhoi sglein ar waith, gan drafod y camau manwl rhwng y drafft cyntaf a’r drafft terfynol, rhoi a derbyn adborth a gweithredu nodiadau dramatwrgaidd. Mae’r cwrs yma yn cael ei ddysgu yn Saesneg.
Arweinwyd gan Reolwr Llenyddol y Sherman, Davina Moss.

Gwnewch gais yma: https://forms.microsoft.com/e/aidFeti3J5

YMESTYN 2: Audience is the Heart of Process (yn Saesneg: 8 Hydref – 5 Tachwedd)
Sut mae cynulleidfa yn newid beth ydych chi’n ysgrifennu?
Mae’r tymor yma yn edrych ar roi cynulleidfaoedd ar flaen proses dramodydd. O ymchwilio ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc i’r clasuron enfawr mi fyddwn yn dadansoddi ag archwilio sut i greu stori gydag ein cynulleidfa mewn golwg. Mae’r cwrs yma yn cael ei ddysgu yn Saesneg.
Arweinwyd gan Reolwr Llenyddol y Sherman, Davina Moss.

Gwnewch gais yma: https://forms.microsoft.com/e/2LPrLArLgw

YMESTYN 3: Ffurf a Strwythur (12 Tachwedd – 10 Rhagfyr)
Yn dychwelyd yn ôl y galw!
Golwg ar y broses o greu drama.
Bydd Cyfarwyddwr Artistig y Sherman Joe Murphy, a’r Rheolwr Llenyddol Davina Moss, yn arwain sessiynau ar sut i adeiladu stori o fwa cymeriad hyd at strwythuro golygfeydd, ac archwilio sut y gall arbrofi â dull newid eich persbectif wrth ysgrifennu mewn ffordd wreiddiol a gwefreiddiol. Mae’r cwrs yma yn cael ei ddysgu yn Saesneg.

Gwnewch gais yma: https://forms.microsoft.com/e/9XhRt26iin

YMESTYN 4: Cynulleidfa yw Calon Proses (yn Gymraeg: 7 – 28 Ionawr)
Sut mae cynulleidfa yn newid beth ydych chi’n ysgrifennu?
Mae’r tymor yma yn edrych ar roi cynulleidfaoedd ar flaen proses dramodydd. O ymchwilio ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc i’r clasuron enfawr mi fyddwn yn dadansoddi ag archwilio sut i greu stori gydag ein cynulleidfa mewn golwg. Mae’r cwrs yma yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg – rydym yn croesawu pob lefel o ruglder.
Arweinwyd gan Cydymaith Llenyddol y Sherman, Lowri Morgan.

Gwnewch gais yma: https://forms.microsoft.com/e/7CvhMyMnpm