Pit Stop

Sesiynau i awduron sydd am gysylltu â’r Adran Lenyddol yw sesiynau Pit Stop.

Gallwch gwrdd â'r tîm am gymorth neu gyngor ar waith penodol sydd ar y gweill, neu am sgwrs gyffredinol.

Anfonwch e-bost at literary@shermantheatre.co.uk i archebu amser gydag aelod o’n tîm llenyddol.

Bydd sesiynau Pit Stop yn cael eu cynnal bob prynhawn dydd Iau rhwng 2pm a 4pm. Bydd pob sesiwn yn para hyd at awr. Yn dibynnu ar amserlen yr adran efallai y bydd cyfleoedd i drefnu sesiwn ar ddiwrnodau eraill.

Wrth wneud cais am sesiwn Pit Stop, nodwch a fyddai’n well gennych fynychu dros Zoom, a rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith ar gyfer eich sesiwn.

Rydym wrthi’n adolygu cyflwyniadau sgriptiau digymell ‘Anfonwch Eich Sgript’ ac felly nid ydym yn derbyn sgriptiau newydd ar hyn o bryd. Os ydych eisoes wedi anfon sgript atom, nodwch fod y Tîm Llenyddol yn gweithio drwy’r cyflwyniadau presennol, a byddwch yn derbyn ymateb erbyn diwedd mis Awst. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â literary@shermantheatre.co.uk