Ydych chi wedi ysgrifennu drama yr hoffech gael adborth arni?
Dros y flwyddyn nesaf bydd dau gyfnod pan fyddwn yn derbyn sgriptiau digymell. Bydd yr holl ddramâu a dderbyniwn yn cael eu darllen gan ein tîm Llenyddol a fydd yn rhoi adborth ac yn cynnig cyngor. Dyma gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi fel ysgrifewnnwyr, ond nid i drafod dramâu ar gyfer eu cynhyrchu.
Y ddau gyfnod y byddwn yn derbyn sgriptiau digymell yw:
Hydref 11 – 18 2021
Mawrth 14 – 21 2022
Sylwch:
- Byddwn yn derbyn sgriptiau gan sgwennwyr Cymreig neu sy’n byw yng Nghymru yn unig.
- Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o ieithoedd yn cael eu siarad drwy ledled Cymru, felly rydym ni’n derbyn sgriptiau wedi’u hysgrifennu mewn unrhyw iaith, cyn belled â bod y cyflwyniad yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg neu Saesneg.
- Mae gennym ddiddordeb mewn straeon gwreiddiol.
- Ni fyddwn yn derbyn mwy nag un cais.
- Nid ydym yn derbyn addasiadau.
- Dramâu llwyfan yn unig rydyn ni’n eu derbyn – dim sgriptiau ffilm a theledu os gwelwch yn dda.
E-bostiwch eich sgript at literary@shermantheatre.co.uk gyda chrynodeb byr o’r ddrama a llythyr eglurhaol yn cyflwyno’ch hun. Os oes ffordd arall yr hoffech anfon eich sgript, cysylltwch â literary@shermantheatre.co.uk