YMCHWILIO

Os ydych chi am ddechrau ar eich taith fel sgriptiwr, ymunwch â ni ar gyfer gweithdai YMCHWILIO.

Rhannwch
Dysgwch hanfodion ysgrifennu dramâu. Does dim angen unrhyw brofiad – efallai eich bod wedi ysgrifennu dramâu byrion, golygfeydd, sgetsys, neu ddim byd o gwbl.

Bydd Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, Davina Moss, a Chydymaith Llenyddol y Sherman, Lowri Morgan, yn cynnal chwech gweithdy misol am ddim ar themâu sy’n cynnwys trywydd a naratif, gwaith golygfa a chymeriadau i egluro ysgrifennu dramâu i artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Drwy ymarferion, trafodaethau ac addysgu, byddwch yn meithrin y sgiliau a’r hyder i ysgrifennu drama lawn yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Ar gyfer pwy mae YMCHWILIO?

Mae YMCHWILIO yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu dramâu, a does dim angen profiad.

Pryd fydd YMCHWILIO ymlaen?

Eleni, bydd YMCHWILIO ymlaen ar ddydd Mercher cyntaf o bob mis, gan ddechrau ym mis Medi, rhwng 6yh a 7.30yh, ac yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar Zoom.

Sut mae ymuno?

Mae cofrestru ar agor tan ddydd Llun 12 Awst 2024:
https://forms.microsoft.com/e/9vjRmNTist