Sioeau a Digwyddiadau Hygyrch

Gall bawb fwynhau perfformiadau yn Theatr y Sherman.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o wasanaethau i wneud ein perfformiadau yn hygyrch.

Rydyn ni’n gwneud perfformiadau yn fwy hygyrch trwy ddarparu:

Capsiynau
Sgript lawn y perfformiad a’r holl giwiau sain wedi eu harddangos ar sgrin yn yr awditoriwm.

Dehongliad BSL
Perfformiad wedi ei gyfieithu i iaith arwyddion Prydain (BSL). Mae arwyddwr yn dehongli wrth ymyl y llwyfan.

Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw ar bopeth sy’n digwydd ar y llwyfan. Rydyn ni’n darparu clustffonau.

Perfformiadau Hamddenol
– Gallwch symud o gwmpas, siarad a lleisio yn ôl yr angen
– Bydd goleuadau’r awditoriwm ymlaen ar lefel isel yn ystod y sioe i’ch galluogi i adael yn hawdd a bydd y drysau allanol i’r cyntedd yn aros ar agor trwy gydol y sioe
– Os gwelwch fudd o wisgo amddiffynwyr clustiau maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim drwy ofyn i’n tywyswyr yn yr awditoriwm a’r tîm yn y Swyddfa Docynnau
– Bydd gofod i ymlacio gyda phabell dywyll a theganau synhwyraidd yn y cyntedd, wedi’i leoli yn y gornel wrth y ffenest, ar gael i chi ei ddefnyddio pryd bynnag y bydd angen

Amddiffynwyr Clust – Os ydych chi angen amddiffynwyr clust i wylio unrhyw un o’n perfformiadau, maen nhw ar gael yn y Swyddfa Docynnau.

Mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa Docynnau i drafod unrhyw ofynion mynediad.

Mae ein holl wasanaethau mynediad ar gael heb unrhyw gost ychwanegol tu hwnt i bris tocyn.

Hidlo a chwilio digwyddiadau

Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr Audio Described

Little Red Riding Hood

14 December 2024 – 1:30PM
Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr BSL

Little Red Riding Hood

14 December 2024 – 1:30PM
Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr Relaxed Performance

Little Red Riding Hood

28 December 2024 – 11:00AM
Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr BSL

A Christmas Carol

7 December 2024 – 2:00PM
Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr Captioned

A Christmas Carol

7 December 2024 – 2:00PM
Crëwyd yn y Sherman
Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr Audio Described

A Christmas Carol

7 December 2024 – 7:00PM
Perfformiadau yn Gymraeg Teulu Theatr Audio Described

Taclus

15 February 2025 – 10:30AM
Perfformiadau yn Gymraeg Teulu Theatr BSL

Taclus

15 February 2025 – 10:30AM
Teulu Theatr Audio Described

Tidy

15 February 2025 – 2:00PM
Teulu Theatr BSL

Tidy

15 February 2025 – 2:00PM