Hygyrchedd

Mae Theatr y Sherman yn croesawu pawb, ac mae gennym wasanaethau amrywiol i sicrhau y bydd eich ymweliad mor bleserus â phosib.

Mae Theatr y Sherman yn croesawu pawb, ac mae gennym wasanaethau amrywiol i sicrhau y bydd eich ymweliad mor bleserus â phosib.

Rydym yn croesawu adborth am unrhyw faterion sy’n ymwneud â hygyrchedd. Siaradwch gydag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900, a rhowch wybod i ni beth ‘rydych ei angen i fwynhau eich ymweliad, ac fe wnawn ein gorau i helpu. Fel arall, gallwch chi lenwi ein ffurflen ar-lein fel bod ein tîm yn ymwybodol o’ch gofynion bob tro y byddwch chi’n archebu.

Archebu Tocynnau
Mae ein llyfryn tymor ar gael mewn print bras, Braille neu ar lafar. Gallwch ofyn am y fformat sydd orau gennych chi drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.
Dolen: Gallwch ddweud wrthym am eich gofynion mynediad gan ddefnyddio’r ffurflen hon.

Consesiynau a Gostyngiadau
Rydym yn cynnig £ 2 oddi ar docyn pris llawn i fyfyrwyr mewn addysg amser llawn, Hawlwyr ac aelodau Equity.
Gall pobl ifanc dan 25 brynu tocynnau am hanner y pris ar gyfer y mwyafrif o berfformiadau yn Theatr y Sherman, ond nid pob un.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gostyngiadau, mae croeso i chi ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900
Mae gennym agwedd hyblyg at brisiau, fel ein bod ni’n gallu cynnig tocynnau am amrywiaeth eang o brisiau bob tro. Fe fydd union bris pob sedd yn y theatr yn amrywio ar gyfer pob perfformiad, ond fe fydd o leiaf 40 tocyn ar gael am y pris isaf bob tro, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ostyngiadau.
I gael gwybodaeth am y prisiau ar gyfer pob perfformiad, edrychwch ar dudalennau’r wefan neu siaradwch ag un o’n Cynorthwywyr Swyddfa Docynnau.

Parcio i Ddeiliaid Bathodyn Glas
Mae llefydd parcio ar gael i ddeiliaid bathodyn glas, o flaen yr adeilad. Caiff y rhain eu rheoli gan Gyngor Caerdydd a’r cyntaf i gyrraedd sy’n cael lle.
Gall deiliaid bathodyn hefyd barcio am ddim a heb derfyn amser mewn lleoliadau penodol o amgylch y ddinas. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
Os oes angen mwy o wybodaeth neu gymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.

Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth yn yr adeilad. Pan fo’n bosib, gallwn gynnig seddi ar ben y rhes mewn perfformiadau er mwyn hwyluso eich ymweliad. Byddwch mor garedig â dweud wrth y Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu.

Gwybodaeth am seddi ein Prif Dŷ
Dewch o hyd i wybodaeth am y seddi yn y Prif Dŷ yma.

Perfformiadau Hamddenol
– Gallwch symud o gwmpas, siarad a lleisio yn ôl yr angen
– Bydd goleuadau’r awditoriwm ymlaen ar lefel isel yn ystod y sioe i’ch galluogi i adael yn hawdd a bydd y drysau allanol i’r cyntedd yn aros ar agor trwy gydol y sioe
– Os gwelwch fudd o wisgo amddiffynwyr clustiau maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim drwy ofyn i’n tywyswyr yn yr awditoriwm a’r tîm yn y Swyddfa Docynnau
– Bydd gofod i ymlacio gyda phabell dywyll a theganau synhwyraidd yn y cyntedd, wedi’i leoli yn y gornel wrth y ffenest, ar gael i chi ei ddefnyddio pryd bynnag y bydd angen