NAM AR Y CLYW

Cŵn clywed
Mae croeso i gŵn clywed yn y theatr. Gallwn gynnig seddi ar ben y rhes i hwyluso eich ymweliad. Byddwch mor garedig â gadael i’r Swyddfa Docynnau wybod wrth archebu eich tocyn, a gofynnwch am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw effeithiau arbennig allai effeithio ar eich ci yn ystod y cynhyrchiad. Fel arall, gall aelod o’n tîm ofalu am eich ci, a byddant yn hapus i ddarparu bowlen ddŵr neu fynd â’r ci am dro. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes angen hyn arnoch chi.

Perfformiadau â chymorth
Mae croeso i chi siarad am eich anghenion gydag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 fel ein bod yn gallu cynnig y sedd orau bosib i chi.
Edrychwch ar y perfformiadau hygyrch sy’n digwydd yn fuan.

Beth yw perfformiad â chapsiynau?
Golyga capsiynau y gellir trosi’r gair llafar yn destun gweledol, sy’n ei gwneud yn bosib i bobl sydd â nam ar eu clyw gael mynediad at berfformiadau byw. Mae capsiynau a gynhyrchir gan gyfrifiadur, ynghyd ag uned arddangos a osodir ar neu ger y llwyfan, yn galluogi pobl sydd â nam ar eu clyw i ddeall beth sy’n cael ei ddweud a phryd mae’n cael ei ddweud.