CYNADLEDDAU

Popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer cynhadledd lwyddiannus o dan yr un to.
Gan gynnig awditoriwm fawr a gofodau llai, Theatr y Sherman yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer eich cynhadledd.

Rydym yn cynnig:
•  Seddi ar gyfer hyd at 450 o bobl yn ein awditoriwm trawiadol yn y Prif Dŷ
•  Lle llai, mwy hyblyg yn Stiwdio y Sherman
•  Amrywiaeth o ofodau llai eraill megis ein hystafelloedd cyfarfod
•  Man cyfarfod mawr anffurfiol yng nghyntedd mawreddog y Sherman
•  Pecyn arlwyo megis bwffe ysgafn
•  Cefnogaeth dechnegol gynhwysfawr
•  Staff sylwgar, cyfeillgar ac effeithlon a fydd yn ymroddedig i’ch gwasanaethu chi a’ch digwyddiad.

Beth bynnag fo’ch gofynion, edrychwn ymlaen at eu trafod gyda chi. Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu pecyn pwrpasol i chi sy’n cyflwyno popeth rydych chi am i’ch cynhadledd ei gyflawni.