YMARFERION

Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer eich ymarferion yn ein theatr gynhyrchu brysur.
Mae Theatr y Sherman yn cynnig defnydd unigryw o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer eich ymarferion neu'ch gwaith ymchwil a datblygu. Mae ein dwy ystafell ymarfer yn gweddu i ystod eang o gynyrchiadau. Gan ddibynnu ar ein hamserlen gynhyrchu ein hunain, gallwn ddarparu ar gyfer eich ymarferion am ddiwrnod neu ddau, neu hyd at wythnos. Mae ymarfer mewn tŷ cynhyrchu prysur a gweithgar yn dod â'i fuddion ei hun sy'n ffafriol i'ch proses, gan gynnwys awyrgylch greadigol a'r cyfle i rwydweithio â gwneuthurwyr theatr eraill yn ein Caffi Bar.

Ystafell Ymarfer 1

Mae Ystafell Ymarfer 1 yn helaeth ac yn gyfleuster ymarfer theatr allweddol yng Nghaerdydd. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau mwy, ac yn cynnig:

– Gofod llawr ac uchder sylweddol
– Goleuadau
– System PA
– Golau naturiol
– Mynediad hawdd
– Trin aer
– Masgio meddal
– Defnydd o fyrddau a chadeiriau
– Piano ar gael i’w llogi

Ystafell Ymarfer 2
Mae Ystafell Ymarfer 2 yn cynnig amgylchedd llai sy’n agos atoch. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau gyda hyd at dri actor. Mae Ystafell Ymarfer 2 yn cynnig:

– Amgylchedd gwaith llachar
– Rheoli aer cylchfaol
– Defnydd o fyrddau a chadeiriau
– Piano ar gael i’w llogi

Mae cefnogaeth dechnegol gan dîm cynhyrchu arbenigol y Sherman hefyd ar gael ar gais, am gost ychwanegol ac yn amodol ar argaeledd.

Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich gofynion. Pe byddem yn gallu rhoi lle i chi o fewn ein hamserlen, byddwn yn ymateb gyda phecyn pwrpasol, wedi’i gynllunio i weddu orau i’ch anghenion.