Symud o Amgylch y Sherman

Mae croeso i chi siarad gydag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 ynglŷn â’ch anghenion er mwyn ein galluogi i wneud eich ymweliad yn fwy cyfforddus.

Nid oes grisiau na llawr anwastad yn ardal y cyntedd sy’n golygu ei bod yn hwylus cyrraedd:
·       Y Swyddfa Docynnau
·       Ardal y Bar Caffi
·       Y Lifftiau
·       Y Toiledau
Mae cownter lefel isel i’r Swyddfa Docynnau a’r Bar Caffi er mwyn mynd atynt yn rhwydd, ac mae lle agored o dan y cownter ar gyfer rhai sydd mewn cadair olwyn.

Mynediad i’r Prif Dŷ
Gellir cael mynediad i’r Prif Dŷ naill ai drwy Ddrws A neu Ddrws B, sydd wedi eu lleoli yn y cyntedd naill ochr i ardal y Bar Caffi.
Mae yna ychydig o risiau sy’n arwain at Ddrws A a Drws B. Mae grisiau hefyd y tu mewn i Ddrysau A a B.
Mae lifft platfform i gynorthwyo i gael mynediad i’r awditoriwm trwy Ddrws A a lifft teithwyr i gynorthwyo i gael mynediad i’r awditoriwm trwy Ddrws B.

Seddi
Mae croeso i chi siarad am eich anghenion gydag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.
Mae dau ris, 7 modfedd o drwch yr un, ar bob rhes o B i P.
Mae’r mannau pwrpasol ar gyfer cadeiriau olwyn wedi eu lleoli yn:
· B1, B2 (sedd y cydymaith) – gellir cael mynediad at y rhain drwy Ddrws A 
· B21 (sedd y cydymaith), B22 – gellir cael mynediad at y rhain drwy Ddrws B
Gallwn hefyd ddarparu llefydd i gadeiriau olwyn yn ein Galeri Mynediad sydd wedi ei leoli yng nghefn yr awditoriwm.
Mae’r mannau pwrpasol ar gyfer cadeiriau olwyn yn y Galeri Mynediad wedi eu lleoli yn Q1, Q2 (sedd y cydymaith), Q3 a Q4 (sedd y cydymaith).
Mae’r Galeri Mynediad yn flwch theatr ar wahân ar lefel 2 a gellir cael mynediad iddo wrth ddefnyddio’r lifft ger y Swyddfa Docynnau. Sylwch y gallwch rannu’r galeri gyda pharti arall.

Mynediad i’r Stiwdio
Mae’r fynedfa i’r Stiwdio yn wastad, ac mae wedi ei leoli i’r dde o’r Swyddfa Docynnau. Mae cynllun y seddi’n hyblyg yn y lleoliad hwn ac yn newid ar gyfer pob sioe. Mae croeso i chi siarad am eich anghenion ag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.