Dod o hyd i’ch Ffordd o Amgylch y Sherman

Mae’r brif fynedfa ar Ffordd Senghennydd yn wastad ac yn arwain yn syth i'r cyntedd.  Mae gennym ddwy set o ddrysau llithro cynorthwyedig. Gellir eich gollwng yn union y tu allan i’r drws ble mae ymyl y palmant yn isel, ac mae hwn wedyn yn arwain yn syth at y brif fynedfa. Mae gennym un gadair olwyn i’w defnyddio i'ch cludo o fan i fan. Byddwch mor garedig â chysylltu gyda’n Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 os oes angen cymorth arnoch. Mae adeilad Theatr y Sherman yn gwbl hygyrch i’r cyhoedd - mae yno lifftiau, toiledau sy’n hawdd mynd iddynt, a gall pobl mewn cadair olwyn gael mynediad hwylus at bob lefel.

Cyntedd
Nid oes grisiau na llawr anwastad yn ardal y cyntedd sy’n golygu ei bod yn hwylus cyrraedd:
· Y Swyddfa Docynnau
· Ardal y Bar Caffi
· Y Lifftiau
· Y Toiledau
Mae toiledau wedi eu lleoli yng nghefn y cyntedd, ac ar yr ail lawr ar gyfer pobl sydd â thocynnau ar gyfer y Galeri Mynediad.

Lifftiau
Gellir cael mynediad i dri lifft o’r cyntedd sydd o gymorth i gyrraedd y Prif Dŷ, y Galeri Mynediad ar yr ail lawr, a’r cyfleusterau ar yr islawr. Os byddwch angen gwneud defnydd o’r lifft, mae angen defnyddio’r lifft platfform ychwanegol i gyrraedd gweithgareddau’r Ystafell Ymarfer ar yr islawr.

Toiledau Hygyrch
Mae gennym ddau doiled hygyrch yn y cyntedd:
Mae toiled cynorthwyedig gyda chyfleusterau newid wedi ei leoli ger mynediad y Stiwdio.

Mae toiled hygyrch annibynnol lle gallwch drosglwyddo’ch hunan o’ch ochr dde wedi ei leoli yng nghefn y cyntedd.

Mae toiled hygyrch annibynnol ychwanegol lle gallwch drosglwyddo’ch hunan o’ch ochr chwith wedi ei leoli ar yr ail lawr ar gyfer y Galeri Mynediad.

Mae cuddyglau pwrpasol gyda rheiliau llaw ychwanegol yn ein toiledau dynion a menywod.