POBL DDALL NEU Â GOLWG RHANNOL

CŴN TYWYS
Mae croeso i gŵn tywys yn y theatr. Gallwn gynnig seddi ar ben y rhes i hwyluso eich ymweliad. Byddwch mor garedig â gadael i’r Swyddfa Docynnau wybod wrth archebu eich tocyn, a gofynnwch am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw effeithiau arbennig allai effeithio ar eich ci yn ystod y cynhyrchiad. Fel arall, gall aelod o’n tîm ofalu am eich ci, a byddant yn hapus i ddarparu bowlen ddŵr neu fynd â’r ci am dro. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes angen hyn arnoch chi.

Sain Ddisgrifiad
Mae rhai perfformiadau yn ystod y tymor yn cynnwys Sain Ddisgrifiad ar gyfer y sawl nad ydynt yn gallu gweld popeth sy’n digwydd ar y llwyfan.
Mewn sain ddisgrifiad, mae disgrifwyr hyfforddedig yn sylwebu’n fyw ar y perfformiad, am yn ail â deialog yr actorion. Mae’r disgrifiad yn cychwyn 15 munud cyn y perfformiad ac yn cynnwys manylion am y set, y cymeriadau ac yn sôn am unrhyw ddisgrifiadau clywedol sydd ar ddod. Defnyddir clustffonau bychain ar gyfer y gwaith disgrifio sydd wedi eu cysylltu i’r system glywedol isgoch. Gellir casglu’r clustffonau o’r Swyddfa Docynnau.

Print Bras
Ffoniwch ein Cynorthwywyr Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 i wneud cais am Raglen Tymor Print Bras.