Teuluoedd

Mae Theatr Sherman yn gyrchfan ar gyfer adloniant teuluol o'r ansawdd uchaf yng Nghaerdydd.
Yn yr adran hon ‘rydym wedi ceisio cynnwys popeth fydd angen i chi ei wybod os ydych yn dod a’ch teulu i Theatr y Sherman.

Sioeau i’r Teulu 
Mae ein sioeau theatr a anelir yn arbennig at deuluoedd a phlant ifanc yn cael eu rhestru’n amlwg ar ein gwefan. I ddarganfod os yw sioe benodol, nad yw wedi ei chynnwys yn yr adran “teulu”, yn addas ar gyfer eich plant, byddwch mor garedig â chysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu gyrrwch e-bost at: box.office@shermantheatre.co.uk

Prisiau’r Sioeau Teulu 
‘Rydym yn cynnig naill ai bris arbennig ar docynnau sioe deulu, neu gonsesiynau, neu docynnau hanner pris i’r rhan fwyaf o’r sioeau teulu ar gyfer pawb dan 25s. Gofynnwch am y manylion ar gyfer pob sioe’n unigol.

Gweithgareddau Teulu
Ar gyfer llawer o’n sioeau teuluol, yn enwedig adeg y Nadolig, yn aml mae gennym raglen o weithgareddau, posau a gemau hwyliog AM DDIM yn y cyntedd.

Toiledau / Cyfleusterau Newid Babanod 
Mae cyfleusterau i newid babanod, a thoiledau lefel is, wedi eu lleoli yng nghyfleusterau’r dynion a’r merched yng nghefn y cyntedd.

Coetsis Plant 
Mae’r brif fynedfa ar Ffordd Senghennydd ar yr un lefel â’r cyntedd, ac felly’n hygyrch i goetsis. Fodd bynnag, os hoffech barcio’ch coetsh yn ystod perfformiad, mae gennym wasanaeth gwarchod coetsis yn rhad ac am ddim. Gofynnwch yn y Dderbynfa neu’r Swyddfa Docynnau.

Prydau Plant 
Ewch i’r adran Bwyd a Diod am fanylion. Mae nifer o gadeiriau uchel ar gael ac wedi eu lleoli yn y cyntedd.

Sherman 5
Dysgwch fwy am sut gall Sherman 5 gefnogi teuluoedd â’u hymweliad i’r Sherman