Hynt

Credwn yn gryf fod celf a diwylliant i bawb ac rydym yn falch o fod yn rhan o gynllun Hynt.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ar draws Cymru i wneud pethau'n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am hygyrchedd er mwyn cynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arferion gorau i'n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd.

Cynllun Aelodaeth yw Hynt
Mae gan rai sydd â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydol sy’n rhan o’r cynllun.

Darganfyddwch os ydych chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdanynt yn gymwys i gael cerdyn
Gwnewch gais am gerdyn Hynt yma

Adnodd yw Hynt
Mae Hynt yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am hygyrchedd a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Byddem yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo, felly os hoffech siarad ag aelod o staff Theatr y Sherman, cysylltwch â ni ar 029 2064 6900.