Stiwdio

Lle yn llawn naws a dychymyg yw Stiwdio’r Sherman.
Dyma lle rydyn ni'n dangos y dramâu newydd mwyaf ffres gan awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru am y tro cyntaf, mewn cynyrchiadau a grëwyd yn y Sherman.

Yn y gofod clyd ac agos hwn fe fyddwch yn ymgolli yn y byd y mae pob awdur wedi’i greu. Dyma lle gallwch chi brofi theatr sy’n amrwd, yn agos atoch ac yn effeithiol. Mae’r Stiwdio yn amlbwrpas ac yn newid ei chynllun seddi ar gyfer pob cynhyrchiad. Nid oes modd archebu sedd benodol yma.

Mae’r Stiwdio yn lle perffaith i unrhyw un sy’n mynd i’r theatr am y tro cyntaf. Dyma lle rydyn ni’n llwyfannu ein sioe Nadolig ddwyieithog flynyddol ar gyfer plant 3-6 oed. Mae naws anffurfiol iawn i’r sioeau hyn gyda chadeiriau bychain a matiau i blant. Rydym hefyd yn cyflwyno dramâu teithiol, theatr ymylol a chomedi stand-yp yn y Stiwdio.