Y Brif Theatr

Mae llwyfan mawr y Brif Theatr yn sicrhau profiad theatrig anhygoel.
Dyma lle rydyn ni'n cyflwyno ein sioe Nadolig i bawb sy'n 7 oed a hŷn, a'n cynyrchiadau o ddramâu clasurol sy'n cael eu creu yn y Sherman.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llwyfan y Prif Dŷ wedi’i drawsnewid i du mewn Toad Hall, tŷ ar arfordir Sir Benfro, ynys anghysbell, fflat yn Efrog Newydd a thirwedd dan eira. Mae ein cynyrchiadau Theatr Ieuenctid hefyd yn cael eu perfformio ar lwyfan y Prif Dŷ.

Rydym hefyd yn cyflwyno dramâu teithiol, sioeau comedi, perfformiadau dawns ac operâu gwych yn y Prif Dŷ.

Mae’r Prif Dŷ yn teimlo’n rhyfeddol o agos atoch ac yn cynnig golygfa wych o bob sedd.