Clwb Byddar Y Theatr

Ein gweithgareddau a’n gwasanaethau ar gyfer aelodau Sherman 5 o’r gymuned B/byddar.

Rhannwch
Ymunwch â'n Clwb Byddar y Theatr i elwa o'r cynigion hyn:

• Tocynnau Sherman 5 gostyngedig
• Perfformiadau gydag is-deitlau neu mewn BSL
• Cyflwyniadau BSL i gynyrchiadau AM DDIM
• Cymorth BSL cyn y sioe yn ein cyntedd a’n caffi AM DDIM
• Sgyrsiau BSL ar ôl y sioe ar gyfer detholiad o gynyrchiadau AM DDIM

Bydd cymorth BSL yn ein bar caffi a chyntedd cyn pob perfformiad yn ymwneud â’r Clwb Byddar. Mae hefyd gennym fwydlenni bar gweledol.

Archebwch eich tocynnau theatr ymlaen llaw i gymryd mantais o’r cynnig rhad ac am ddim hwn. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio’r Swyddfa Docynnau ar box.office@shermantheatre.co.uk a gadael i’n haelodau staff cyfeillgar wybod eich bod yn aelod Sherman 5 o Glwb Byddar y Theatr.

Gallwch dalu am eich tocynnau pan fyddwch yn eu casglu.