Mae Theatr y Sherman yn gymuned wrth galon y ddinas. Rydyn ni’n gymuned o ddinasyddion, gwirfoddolwyr, artistiaid ac aelodau o staff. Rydyn ni am i chi fod yn rhan o’n cymuned ac yma gallwch ddysgu am yr holl ffyrdd amrywiol y gallech chi wneud hynny.
Os nad ydech chi wedi bod i Theatr y Sherman erioed o’r blaen ond hoffech chi wneud hynny, efallai y byddai Sherman 5 yn berffaith ar eich cyfer. Mae Sherman 5 yn cefnogi pobl i fynychu’r theatr am y tro cyntaf trwy gynnig tocynnau theatr gostyngedig, gweithdai, gweithgareddau a llawer mwy i’w haelodau.