Gwirfoddoli

Dewch yn Wirfoddolwr a mwynhewch theatr byw am ddim!

Mae gwirfoddoli yn Theatr y Sherman yn ffordd gyffrous a chymdeithasol o fwynhau perfformiadau byw.

Mae ein Tywyswyr Gwirfoddol yn dysgu sgiliau newydd ac yn dod yn aelodau o dim o bobl o’r un anian sy’n helpu i gefnogi ein gwaith. Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu croeso cynnes y Sherman a phrofiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd bob tro y maent yn ymweld â ni.

Os yr ydych chi’n teimlo’n angerddol am y celfyddydau ac yn chwilio am sialens newydd, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi.

Mae’r cynllun yn agored i unrhywun dros 16 mlwydd oed. Boed i chi fod eisiau canfod ffordd o danio’ch gyrfa, creu ffrindiau newydd, magu mwy o hyder neu roi rhywbeth yn nôl i’ch cymuned, cysylltwch â ni a dechreuwch eich siwrnai wirfoddoli hefo ni heddiw.

Cysylltwch â ni: volunteers@shermantheatre.co.uk

Gwirfoddoli yn Theatr y Sherman