Dyddiadau i ddod ar gyfer eich dyddiaduron
Isod mae dyddiadau ein cyfarfodydd cymdeithasol yn ystod Tymor y Gwanwyn yn ogystal â digwyddiadau arbennig ar gyfer ein haelodau:
- Dydd Sadwrn 2 Ebrill ar ôl perfformiad 2.30 o Dance to the Bone. Mae hwn yn berfformiad â dehongliad BSL a gyda disgrifiad sain. Bydd hefyd yn berfformiad pellter cymdeithasol.
- Dydd Iau 14 Ebrill cyn perfformiad 2.00 o Horrible Histories: Terrible Tudors. Galwch i mewn unrhyw bryd o 1.00pm
- Nos Sadwrn 14 Mai cyn perfformiad 7.30 o A Hero of the People. Galwch i mewn unrhyw bryd o 6.30
- Dydd Sadwrn 28 Mai cyn perfformiad 2.00 o A Hero of the People. Galwch i mewn unrhyw bryd o 1.00. Perfformiad â dehongliad BSL yw hwn.
Mae’r digwyddiadau cymdeithasol hyn yn gysylltiedig ag amryw o berfformiadau ac yn cynnig cyfle i’n haelodau gwrdd â’i gilydd yn anffurfiol dros baned a chael sgwrs gyda staff a gwirfoddolwyr Sherman 5 hefyd. Ymunwch â ni am ychydig o luniaeth am ddim, a bydd gennym rai gweithgareddau lliwio i blant sy’n dod i weld Horrible Histories yn ystod gwyliau’r Pasg. Edrychwn ymlaen at eich gweld eto ac at groesawu aelodau newydd!
Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau i archebu eich tocynnau:
E: Box.office@shermantheatre.co.uk
Ffôn: 029 2064 6900
Perfformiadau hygyrch – Tymor y Gwanwyn
Mae gennym berfformiadau â dehongliad BSL, disgrifiadau sain a chapsiynau. Gallwch weld gwybodaeth lawn am ein holl sioeau hygyrch yma. Gweler y rhestr o’r holl ddigwyddiadau hygyrch sydd ar ddod yma.
Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau i archebu eich tocynnau:
E: Box.office@shermantheatre.co.uk
Ffôn: 029 2064 6900
Digwyddiadau arbennig ar gyfer aelodau Sherman 5
- 20 Ebrill, ymunwch â ni i wneud masgiau Pasg am ddim i deuluoedd 10.00am – 1.00pm.
- 29 Ebrill, mae darlleniadau sgript yn dychwelyd gyda Paned a Stori, 10.30am yn ein prif awditoriwm, gyda sesiwn holi ac ateb a sgwrs i ddilyn. Dim ond £3 yn cynnwys paned a chacen.