Dewisiadau Sherman 5

Mae aelodau Sherman 5 yn cael tocynnau gostyngedig ar gyfer detholiad o berfformiadau yn Theatr y Sherman:

Dyma’r cynigion sydd ar gael. Bydd sioeau pellach yn cael eu hychwanegu trwy gydol y tymor:

Theatr y Sherman: The Wife of Cyncoed (7 – 23 Maw)
Yn dyner a phleserus, mae The Wife of Cyncoed yn stori am hunan ddarganfyddiad sydd hefyd yn llawn bywyd a chwerthin. Erbyn diwedd stori Jayne, byddwch chi’n gwybod nad yw hi byth yn rhy hwyr am gyfle arall a darganfod pwy ydych chi mewn gwirionedd.

Mae’r sioe hon yn cynnwys golygfeydd o natur oedolion a rhywiol ac yn cynnwys iaith gref.

Theatr y Sherman: The Women of Llanrumney (16 Mai – 1 Meh)
Daw gorffennol trefedigaethol Cymru wyneb yn wyneb â’i hun yn nrama hanesyddol ddifrodus Azuka Oforka. Cyhoeddir The Women of Llanrumney Azuka Oforka fel llais newydd mawreddog yn y theatr yng Nghymru. Dyma ddrama danbaid newydd sy’n rhaid ei gwylio gan unrhyw un sy’n chwilio am ddrama bwerus a difrifol.

Mae’r sioe hon yn delio â chaethwasiaeth, yn cynnwys slurs hiliol, golygfeydd a allai beri gofid i aelodau’r gynulleidfa, cyfeiriadau at drais a chamdriniaeth ac yn cynnwys iaith gref. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Theatr y Sherman: Odyssey ’84 (11 – 26 Hyd 2024)
Mae’r personol a’r gwleidyddol yn gwrthdaro yn narlun hyfryd a chalonogol Tim Price o Streic y Glowyr ym 1984, wedi’i ysbrydoli gan Homer a’i ddarn Odyssey.

Mae sioe hon yn cynnwys darluniau o drais ac iaith gref.

Gall aelodau Sherman 5 archebu tocynnau ar gyfer y sioeau hyn am bris arbennig Sherman 5 sef £7.50 (£3.75 i rai dan 25) drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu ebostio box.office@shermantheatre.co.uk