Penlan, Swansea. Nawr. Yn eu harddegau, mae Ruby a Kyla yn treulio’u nosweithiau yn siop gyw iâr Cheney’s, yn breuddwydio am symud i Vegas a mynd yn feiral. Ar hap maent yn cwrdd â Sadie, merch hŷn, llawer mwy cŵl, ac yn sydyn mae eu breuddwydion am bartïon pwll nofio a rholio mewn doleri o fewn eu cyrraedd… ond am ba bris?
Dyma stori am gyfeillgarwch, colli diniweidrwydd a Llinellau Cyffuriau. Drama newydd danbaid, ddoniol a chythryblus gan Rebecca Jade Hammond sy’n dangos theatr Gymreig gyfoes ar ei mwyaf craff.
Fe berfformir Hot Chicks yn Theatr y Grand Abertawe hefyd rhwng 16 – 25 Ebrill.
Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.
Cefnogir gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a People’s Postcode Lottery/Postcode Community Trust