Adloniant rhagorol i blant 3-6 oed.
Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig ar Ddydd Nadolig! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn.
Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl; Mae’r hyfryd Biwti a Brogs / The Frog Prince gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed.
Perfformir sioeau ar wahân yn Gymraeg fel Biwti a Brogs ac yn Saesneg fel The Frog Prince.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
- 22 Rhag (1.30pm) – BSL Cathryn McShane
- 22 Rhag – Pre show Deaf Theatre Club BSL Claire Anderson
- 20 Rhag (11am show) – AD Michelle Perez
YN THEATR Y SHERMAN
24 Tach 2025 – 3 Ion 2026
Amseroedd amrywiol
The Frog Prince – Pecyn Adnoddau