Adolygiad
24 Tach 2025 – 3 Ion 2026Prisiau
£9.50. Ysgolion £7.50. (Bargen Gynnar i Ysgolion £6)
Gwybodaeth Bellach
- Iaith: Cymraeg
- Gofod: Stiwdio
- Oedran: 3 - 6
- Sat 6 Dec - 1:30pm BSL interpreted
Tre Melys. Nawr. Dewch i Stiwdio’r Sherman a chamu i fyd gwbl hudolus gyda fersiwn newydd Gwawr Loader o stori’r Tywysog Broga gan y Brodyr Grimm.
Adloniant rhagorol i blant 3-6 oed.
Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig ar Ddydd Nadolig! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn.
Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl; Mae’r hyfryd Biwti a Brogs / The Frog Prince gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed.
Perfformir sioeau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
- 6 Rhag (1.30pm) – BSL Cathryn McShane