Alice: Return to Wonderland

Crëwyd yn y Sherman Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Hannah McPake

Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake

Archive

Adolygiad

28 Tach 2025 – 3 Ion 2026
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Oedran: Wedi’i chreu’n arbennig i bawb 7 oed a hŷn i'w mwynhau.
Gwybodaeth Pwysig

Tua 2 awr 10 munud gan gynnwys egwyl.

Sylwch fod Alice: Return to Wonderland yn cynnwys goleuadau strôb, niwl a synau uchel. Darganfyddwch fwy yma.

 

Ar ôl camu mewn i Wonderland, dydych chi ddim wir yn gadael.

Y Nadolig hwn, ewch ar antur anferthol o lawenydd a dwli i Wonderland. Yn seiliedig ar Through the Looking-Glass, mae Alice: Return to Wonderland yn ddrama newydd llawn hwyl wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan un o ffefrynnau’r Sherman, Hannah McPake (Scrooge A Christmas Carol). Cewch eich cludo o Gaerdydd yn yr 1940au i fyd o ddychymyg pur, a hynny o gysur eich sedd yn y Brif Theatr.

Bydd ein cast o wynebau cyfarwydd Nadolig yn y Sherman yn dod â chymeriadau adnabyddus Wonderland yn fyw. Paratowch i adael difrifwch y byd ar ôl a dewch i ddarganfod byd yn llawn hyfrydwch i’ch synnu ar bob cyfle.

Mae Alice: Return to Wonderland yn cynnwys popeth y mae ein cynulleidfaoedd yn ei garu am sioeau Nadolig y Brif Theatr. Gyda set wych, gwisgoedd a phypedau trawiadol, a chaneuon arbennig sy’n cael eu perfformio gan ein cast anhygoel o actorion-gerddorion Cymraeg ac wedi’u lleoli yng Nghymru; dewch atom ni i brofi adloniant i’r teulu oll. Gyda phopeth yn cael ei greu o dan ein to ni yng nghanol Caerdydd, mae Alice: Return to Wonderland yn cynnig gwibdaith orfoleddus gyda gwahaniaeth i bawb 7 oed a hŷn y Nadolig hwn.

 

Pum Rheswm i weld Alice: Return to Wonderland

“Nid mynd yn hŷn sy’n achosi ni rhag chwarae, ond rhag chwarae sy’n achosi ni i fynd yn hŷn.”

Un. Y Gerddoriaeth. O! Y gerddoriaeth! Neidiwch i fyd o hud a lledrith gyda’n hensemble eithriadol o actorion-gerddorion. Mae’r band cyfan ar y llwyfan ac yn barod i godi’r to yn yr addasiad hwn o Alice Through the Looking Glass. I ychwanegu at y swyn, mae Barnaby Southgate, y Cyfarwyddwr Cerdd, yn arwain y gerddorfa yn fyw ar y llwyfan ym mhob perfformiad, gan ddod â’r sgôr yn fyw a gosod y gerddoriaeth wrth wraidd y stori.

Dau. Y Cast. Comedi gwirioneddol WY-ch a chymeriadu rhyfeddol ym mhob perfformiad. Mae’r Wy Mawr ei hun, Humpty Dumpty, Oliver Wood yn boblogaidd tu hwnt ar y llwyfan y Nadolig hwn. Mae dawn Keiron Self fel y Gwningen Wen yn eglur a’i amseru yn berffaith o ran tynnu coes. Bydd GPS Rabbit yn eich trawsgludo y tu ôl i’r llen at fyd o hud a lledrith i’ch rhyfeddu a’ch swyno. Mae Joseph Tweedale yn chwarae rhan sawl cymeriad gwahanol ac yn gwneud hyn yn aruthrol o dda gan ddangos rhagoriaeth gomedi ar ei gorau. Daw Max James â phersonoliaeth a gwreiddioldeb hyfryd, ac yn eich gadael yn pendroni o ble ddaeth pob paned o de. Mae cynhesrwydd Mari Fflur yn disgleirio. Gan ddod â chalon ac egni go iawn i’r llwyfan. Mae Elian Mai West yn gymeriad a hanner, gyda ffraethineb sy’n rhoi sail hyderus a chwareus i’r holl hud a lledrith. Mae Caitlin Lavagna yn rheoli’r llwyfan gyda’i llais pwerus a’i phresenoldeb rhwydd sy’n creu brenhines goch na allwch help ond ei chefnogi. Mae Alice Eklund yn disgleirio fel yr uncorn. Nid creadur chwedlonol mwyach, mae hi’n ein hatgoffa mai drwy ymddiried yn llwyr y gallwn ddod i weld… babi! Mae Zara Law yn ymddangos am y tro cyntaf fel actores brentis disglair.

Tri. Ddim yn ein coelio ni? Edrychwch ar yr adolygiadau ffantastig gan y Guardian, y Stage, a’r Theatre and Tonic. Ewch lawr y dudalen i ddarllen beth oedd barn yr adolygwyr a’n cynulleidfaoedd am y sioe. Mae hi’n sioe 5-seren!

Pedwar. Erioed wedi meddwl sut mae chwarae un o’r gemau hynaf erioed? Cewch chi ddim gwell esboniad na hyn o reolau gwyddbwyll! Dyma wyddbwyll gyda mwy o sgwariau, mwy o liwiau, a mwy… wel fel gwyddbwyll! Dyna beth mae’r Frenhines Goch yn dweud, ta beth!

Pump. Camwch i fyd arall. Nid adrodd y stori yn unig y gwna cast Alice: Return to Wonderland, maen nhw’n llunio antur liwgar drwy gerddoriaeth a dychymyg. Camwch i Wonderland dros y gaeaf hwn. Dewch i ganfod yr hud a lledrith mewn chwarae ac ymadawch yn credu yn yr amhosib.

 

Beth yw’r stori?

Caerdydd, Noswyl Nadolig 1947. Flynyddoedd ar ôl ymweld â Wonderland am y tro cyntaf, mae Alice, nawr yn hŷn, yn gweithio fel cynllunydd tref i Ddinas Caerdydd. Wrth baratoi am waith i ddechrau ar ei phrosiect adeiladu diweddaraf, yn sydyn, mae hen ffrind fflwffiog yn torri ar ei thraws. Cyn pen dim, bydd yn rhaid i Alice adael Caerdydd a dychwelyd i Wonderland mewn ras yn erbyn amser i achub ei merch Carys o felltith y Frenhines Goch.

Mae’n nodi bod y sioe ar gyfer cynulleidfa 7+. Ydy hi’n addas ar gyfer plant iau?

Mae Alice: Return to Wonderland wedi’i chreu’n arbennig i bawb 7+ oed i’w mwynhau. Er bod croeso i blant iau fynychu, mae’n werth nodi bod y sioe yn ddwy awr o hyd gyda llawer o effeithiau arbennig, synau a cherddoriaeth. Yn y Stiwdio, rydym wedi creu’r sioe The Frog Prince / Biwti a Brogs ar gyfer plant 3-6 oed.

Ai panto yw hwn? Neu sioe gerdd?

Na, nid panto na chwaith sioe gerdd. Drama yw hon, gyda cherddoriaeth yn ganolbwynt iddi. Mae ein cast o actorion-gerddorion arbennig yn actio, canu a chwarae amrywiaeth o offerynnau cerdd yn fyw ar y llwyfan er mwyn adrodd y stori. Mae’r caneuon a’r gerddoriaeth wedi’u hysgrifennu gan Lucy Rivers sy’n gydnabyddedig am gyfansoddi cynifer o sioeau Nadolig y Sherman gan gynnwys A Christmas Carol, Tales of the Brothers Grimm ac Alice in Wonderland.

Dychwelyd i Wonderland? Ai dilyniant i’r stori wreiddiol yw hon?

Mae’r stori hon yn addasiad o ail lyfr Alice, sef Through the Looking Glass, ac yn cynnwys llawer o gymeriadau Alice in Wonderland. Mae hon yn ddrama annibynnol ac yn deilwng i’w mwynhau ar liwt ei hun.

Pwy sydd yn y cast?

Mae’r cast yn llawn o wynebau cyfarwydd y Sherman. Yn chwarae’r brif ran fydd Elian Mai West, a chwaraeodd Alice yng nghynhyrchiad y Sherman o Alice in Wonderland yn 2018. Yn ymuno ag Elian fydd Mari Fflur (Hansel and Gretel/Hansel a Gretel, Little Red Riding Hood/Yr Hugan Fach Goch) fel Carys; Caitlin Lavagna (Housemates); Emily Ivana Hawkins (Housemates, A Christmas Carol – cynhyrchiad 2024); Oliver Wood (A Christmas Carol – cynhyrchiad 2024); Joseph Tweedale (The Borrowers, Alice in Wonderland) a Max James, sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’r Sherman. Mae Keiron Self yn perfformio mewn sioe Nadolig y Sherman am y 11eg tro!

  • 2 Rhag (7pm), 6 Rhag (2pm) and 19 Rhag (6.30pm) – BSL Tony Evans
  • 19 Dec – Pre show Deaf Theatre Club BSL Claire Anderson
  • 13 Rhag (2pm) and 19 Rhag (6.30pm)– Captioned (English) by Erika James
  • 13 Rhag (7pm) – AD Michelle Perez

Alice: Return to Wonderland – Pecyn Gweithgareddau

Cast