Theatr Noddfa

Theatr y Sherman yw Theatr Noddfa cyntaf Cymru

Rhannwch

Ym mis Tachwedd 2019, daeth Theatr y Sherman yn Theatr Noddfa gyntaf Cymru.

Mae'r statws a roddwyd gan City of Sanctuary yn cydnabod y Sherman fel rhywle y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches deimlo'n ddiogel a derbyn croeso a chefnogaeth.

Mae ein timau Ymgysylltu Creadigol a Blaen Tŷ yn cydweithio â sefydliadau partner i groesawu cymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches Caerdydd i’r theatr. Mae aelodau o’r gymuned wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai ac wedi dod i adnabod y Sherman trwy deithiau dan arweiniad aelodau staff y theatr. Maent hefyd wedi ymddangos ar ein llwyfannau mewn cynyrchiadau cymunedol megis Love Cardiff, 50 Years of Your Stories. Mae llawer o aelodau o’r gymuned wedi cofrestru i ymuno â Sherman 5 neu i wirfoddoli er mwyn cynyddu eu cysylltiad â’r theatr.

Rydym yn cymryd o ddifrif ein rôl wrth godi ymwybyddiaeth o brofiadau ceiswyr noddfa yn ein dinas a’r cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i Gaerdydd.

Mae Theatr y Sherman yn cefnogi siarter City of Sanctuary ac yn addo’r canlynol i bobl sy’n ceisio noddfa yn y ddinas:

  • Croeso cynnes
  • Tocynnau sioeau am ddim ar gyfer Ceiswyr Noddfa
  • Cyfleoedd i wirfoddoli
  • Cymorth cyn y sioe a gweithgareddau creadigol ar gyfer ymweliadau grŵp
  • Mynediad at gyfleoedd dysgu / teithiau theatr / gofod gweithdy

“Rydym yn cefnogi gweledigaeth ‘City of Sanctuary’ y bydd y DU yn lle diogel, croesawgar i bawb ac yn falch o gynnig noddfa i bobl sy’n ffoi rhag trais ac erledigaeth.

Rydym yn cefnogi Siarter City of Sanctuary, ac yn cytuno i weithredu yn unol â gwerthoedd City of Sanctuary a chymhwyso egwyddorion y rhwydwaith o fewn ein gwaith (cyn belled ag y mae ein cyd-destun penodol yn ein galluogi i wneud hynny).

Rydym yn cydnabod cyfraniad pobl sy’n ceisio noddfa. Mae pobl sy’n ceisio noddfa yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u cefnogi yn ein cyd-destun.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Cerys Grail: cerys.grail@shermantheatre.co.uk