Addysg

Taniwch ddychymyg eich disgyblion gyda Tu ôl i’r Llen, Mabwysiadu Actor a Gweithdai Addysg.
Rydyn ni’n angerddol am weithio gydag ysgolion a cholegau ar draws Caerdydd a De Cymru, eu cefnogi hefo’r cwricwlwm Cymreig newydd, a sicrhau fod creadigrwydd a diwylliant yn parhau wrth wraidd addysg.

Rydyn ni’n cefnogi’r holl adrannau o Ddysgu a Phrofiad trwy raglenni penodol, gweithgarwch unigryw, a gweithdai unigol fydd oll wedi’u teilwra i wasanaethu anghenion penodol eich grwp a’r cwricwlwm. Bydd Theatr y Sherman yn cydweithio â chi i ddarparu gwagle diogel a hygyrch ar gyfer creadigrwydd, fydd yn ysbrydoli ac yn sbarduno eich myfyrwyr ar bob lefel gallu.