Mabwysiadu Actor

Mewnwelediadau unigryw ar gyfer eich myfyrwyr ynglyn â sut y caiff theatr ei greu.

Adolygiad

Prisiau

Ar gais

Rhannwch
Ydych chi erioed wedi dymuno cael gwybod sut beth yw hi i fod yn actor proffesiynol? Ydech chi’n awyddus i wybod beth sy’n digwydd mewn ystafell ymarfer? Wel mae hynny’n bosib bellach...

Yma yn Theatr y Sherman gallwch chi a’ch myfyrwyr gael eich paru ag actor proffesiynol sy’n perfformio yn ein Sioe Nadolig. Byddwch chi a’ch dosbarth yn derbyn llythyr gan eich actor mabwysiedig ar ddiwedd pob wythnos ymarfer, gan dderbyn syniad da o’r hyn sy’n digwydd yn ystod y broses ymarfer yn ogystal â pa feddyliau, teimladau a syniadau mae’r actor yn eu profi yn ystod eu wythnos o ymarferion gan roi’r cyfle i’ch myfyrwyr gael syniad o’r hyn sy’n digwydd tu ôl i’r llenni yn ystod cyfnod creu A Christmas Carol

Yna, wedi i chi weld perfformiad o’r sioe, byddwch chi a’ch dosbarth yn cael y cyfle i gwrdd â’ch actor mabwysiedig i gael sesiwn C&A 15-20 munud, wedi’i harwain gan aelod o’r Tîm Ymgysylltu Creadigol.