Tu ôl i’r Llen

Ymunwch â ni yn y cnawd neu arlein a chanfyddwch cymaint mwy ynglyn â beth sy’n cyfrannu tuag at berfformiad y Sherman.

Prisiau

Ar gais

Gwybodaeth Bellach

  • Cysylltwch: ffion.denman@shermantheatre.co.uk
Rhannwch
A ydych chi erioed wedi ystyried sut caiff set theatr ei hadeiladu? Neu sut yr ydyn ni’n ymarfer sioe? Wel yma yn Theatr y Sherman mae ein drysau bob tro’n agored.

Os hoffech chi ddod â grwp ar daith o gylch y theatr ac i gael sgwrs â’n tim ymgysylltu creadigol ynglyn â’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud, yna cysylltwch â ni. Bydd ein taith theatr yn eich galluogi chi i gael mewnolwg i’r hyn sy’n mynd ymlaen tu ôl i’r llen yma’n Theatr y Sherman.

Rydyn ni’n falch iawn i allu cynnig y sesiynau hyn yn y cnawd ac yn ddigidol. Mae ein teithiau’n gwbl rhyngweithiol ac yn cynnig gwagle ar gyfer cwestiynnau ac atebion manwl. Gellir teilwra’r holl gynnwys i weddu agwedd penodol o’r cwricwlwm neu i gynnig ffocws penodol.