Pan fydd pobl ifanc yn ymrwymo â’r theatr nid dysgu sut i berfformio neu ysgrifennu wnawn nhw yn unig. Er fod sgiliau perfformio ac ysgrifennu yn hynod o ddefnyddiol, mae’r theatr yn cynnig mwy na hynny iddyn nhw. Maent yn ennyn hyder, yn dechrau canfod pwy ydyn nhw, meddwl am bethau nad ydynt wedi meddwl amdanynt o’r blaen, cyfarfod ffrindiau newydd a llawer mwy.
Mae ein tim yn ymrwymedig i greu gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc trwy ddatblygu mwy na’u sgiliau creu theatr yn unig, ond hefyd y sgiliau hynny sy’n angenrheidiol tu hwnt i wagle creadigol, ar pa bynnag gwrs y byddant yn ei droedio dros eu bywydau.