Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu

Rhaglen i bobl ifanc 15-18 oed, i fwynhau ac i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol.

Mae rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman yn cynnig cyfle i bobl ifanc 15-18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Yn bwysicaf oll, mae'n le iddynt ddarganfod eu llais a'i rannu ag eraill. Rydym yn falch o gynnig hyn yn gyfan gwbl AM DDIM diolch i gefnogaeth gan the Moondance Foundation.

Bob wythnos mae ein pobl ifanc yn magu hyder trwy ddysgu sgiliau newydd a gwneud cysylltiadau newydd. Mae ein sesiynau’n cael eu harwain gan dîm ymroddedig, ac nid ydynt yn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Mae’r sesiynau hefyd yn canolbwyntio ar bethau rydyn ni’n gwybod sy’n bwysig i’n pobl ifanc fel datblygu sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a chydweithio.

Mae ein sesiynau wythnosol yn annog ein pobl ifanc i brofi amrywiaeth o dechnegau a sgiliau ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu dramâu. Ar ddiwedd y tymor hwn bydd gwaith ysgrifennu’r bobl ifanc yn cael ei rannu mewn tymor byr o waith ar-lein a gyflwynir gan actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol.

Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn agored i bawb rhwng 15 a 18 oed. Rydym yn ymwybodol fod pob person ifanc yn datblygu yn eu amser eu hunain. Ein nod yw darparu amgylchedd sy’n eu meithrin, fel y gall ein pobl ifanc wneud y gorau o’u profiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar yr e-bost isod.

SUT I YMUNO
Bydd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn ailddechrau yn yr Haf 2024. Bydd y sesiynau bob nos Iau rhwng 7.30yh a 9.30yh yn Theatr y Sherman, gyda’r sesiwn gyntaf ar 18 Ebrill. Defnyddiwch y linc bwcio lle neu e-bostiwch itp@shermantheatre.co.uk am fwy o wybodaeth.

TIWTORIALAU DIGIDOL AC ADNODDAU

Yn ogystal â’n sesiynau wythnosol rydym hefyd yn cefnogi amgylchedd dysgu cyfunol trwy ein cyfres o weithdai digidol AM DDIM.

Mae gweithwyr theatrig proffesiynol o bob rhan o Gymru a’r DU wedi helpu i greu cynnwys i’ch helpu gyda’ch ysgrifennu creadigol a chreu theatr. Mae pob cyfrannwr yn sôn ychydig am eu hunain a’u llwybr gyrfa, cyn arwain eich myfyrwyr trwy ddau ymarfer i wella eu sgiliau ysgrifennu.

Rydym hefyd yn darparu pecyn gweithgareddau gyda gwybodaeth bellach am yr ymarferion a geirfa fanwl, sy’n eich galluogi i ddatblygu gwersi a chynlluniau gwaith.

“Ro’n ni’n gwerthfawrogi’r amgylchedd cyfeillgar a chreadigol, ac dw i’n edrych ymlaen at ysgrifennu’n broffesiynol yn y dyfodol.”