Theatr Ieuenctid Sherman

Ein cynllun theatr ieuenctid blaenllaw ar gyfer oedrannau 8 i 18.

Wrth eich bodd yn perfformio?

Mae Theatr Ieuenctid y Sherman ar gyfer pobl ifanc. Mae'n rhywle ble y gallant deimlo eu bod yn perthyn, ac yn bwysicaf oll, mae'n rhywle ble y gallant fod yn nhw eu hunain ac archwilio'r hyn sy'n ennyn eu chwilfrydedd.

Bob wythnos mae ein pobl ifanc yn magu hyder trwy ddysgu sgiliau newydd, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Mae ein tîm ymroddedig yn arwain sesiynau sy’n ymwneud â llawer mwy nag actio a theatr yn unig. Rydym yn gwybod bod sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a gwaith tîm yr un mor bwysig i’n pobl ifanc.

Mae sesiwn bob wythnos, ond nid oes pwysau i fynychu pob un. Isod fe welwch restr o amseroedd y sesiynau a chanllaw i’r oedrannau rydyn ni’n teimlo sy’n addas ar gyfer pob grŵp.

Mae Theatr Ieuenctid y Sherman ar agor i bawb. Rydym yn ymwybodol bod pob plentyn yn datblygu yn ei amser ei hun ac nid yw eu gallu bob amser yn gysylltiedig ag oedran. Os ydych chi’n teimlo y byddai grŵp arall yn fwy addas ar gyfer eich plentyn chi am unrhyw reswm, cysylltwch â ni. Ein nod yw dod o hyd i’r grŵp gorau i bawb, fel y gall ein pobl ifanc wneud y gorau o’u profiadau.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â Theatr Ieuenctid y Sherman, ac i gael eich ychwanegu i’r rhestr aros, e-bostiwch Gynorthwyydd Ymgysylltu Creadigol, Ffion Denman ar community@shermantheatre.co.uk.trwy ffonio Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman ar 029 2064 6900.

Tymor yr Haf 2025

• Grŵp Theatr Ieuenctid y Sherman 1 – Blynyddoedd 4, 5 a 6 (8 – 11 oed) Dydd Mercher, 6.00yh – 7.30yh
• Grŵp Theatr Ieuenctid y Sherman 2 – Blynyddoedd 7 a 8 (11 – 13 oed) Dydd Iau, 6.00yh – 7.30yh
• Grŵp Theatr Ieuenctid y Sherman 3 a 4 – Blynyddoedd 9+ (13 – 18 oed) Dydd Mawrth, 6.00yh – 7.30yh

———–

“Fel tad i un sy’n aelod o Theatr Ieuenctid y Sherman, mae wedi bod yn hyfryd gweld fy mhlentyn yn datblygu yn oedolyn ifanc mwy hyderus, sicr a chyflawn. Trwy weithio gyda’r staff cyfarwyddo a chynhyrchu yn Theatr Ieuenctid y Sherman, mae fy mhlentyn wedi tyfu mewn ffyrdd na allem fod wedi eu rhagweld. Maent wedi darganfod eu llwybr a bellach yn benderfynol o astudio drama ar gyfer TGAU, Safon Uwch, coleg a thu hwnt fel galwedigaeth. Rydyn ni fel teulu yn ddiolchgar i’r Sherman ac yn falch iawn o’n plentyn sydd ar lwybr cyffrous i’r dyfodol.” Rhiant Theatr Ieuenctid.

“Mae’r theatr ieuenctid wedi rhoi hwb i’m hyder i raddau nad oeddwn i erioed wedi’u hystyried yn bosibl (i mi yn bersonol)Cyfranogwr, 16 oed.