Cefnogaeth Gorfforaethol

Wedi'i lleoli yng nghanol Caerdydd, mae Theatr y Sherman yn creu theatr arobryn sydd wedi ennill clod beirniadol, a hynny ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib i fwynhau a chymryd rhan mewn theatr, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i chwalu unrhyw rwystrau sy’n atal hynny rhag digwydd. Fel Cefnogwr Corfforaethol gallwch chi chwarae rhan wrth helpu i ehangu cyrhaeddiad ac effaith popeth rydyn ni’n ei wneud – o’r gwaith ar ein llwyfannau, i’n cynlluniau datblygu artistiaid, ein gwaith ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau, a’n gwaith allgymorth ehangach.

Byddem yn croesawu’r cyfle i drafod sut y gallwn weithio gyda chi i ddatblygu partneriaeth unigryw sydd wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion eich sefydliad yn y modd gorau, gan ganolbwyntio ar Adenillion ar Fuddsoddiadau.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu: emma.tropman@shermantheatre.co.uk