Y STIWDIO

Mae'r Stiwdio yn ofod bocs du aml-swyddogaeth hynod hyblyg.
Cysylltwch â ni
hires@shermantheatre.co.uk
P'un a ydych chi'n chwilio am leoliad perfformio gyda seddi, ystafell gyfarfod fawr neu le agored ar gyfer derbyniad diodydd, gallwn ni addasu i'ch anghenion.

Yn ddiweddar rydym wedi cynnal cynadleddau ar raddfa fach ar gyfer Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a Legal and General Insurance. Cyfanswm ardal oddeutu: 111m2
• Mae’r Stiwdio yn wythonglog gyda balconi yr holl ffordd o gwmpas, sy’n 1.6m o led, gyda chliriad o 1.98m ar yr ochr isaf.
• Mae lefel llawr y balconi 2.23m yn uwch na lefel llawr y llwyfan.
• Lled y llawr ar ei letaf yw 11.89m.
• Lled y llawr clir gyda seddi o’i amgylch yw 6.4m.
•Y trefniant eistedd arferol ar gyfer perfformiadau yw llwyfan gwth (seddi ar 3 ochr yr octagon)
• Uchafswm o 100 o bobl yn y gofod mewn arddull theatr
• Uchafswm o 150 o bobl yn y gofod ar gyfer Derbyniad Diodydd