Ystafelloedd cyfarfod

Cysylltwch â ni
hires@shermantheatre.co.uk
Ystafelloedd cyfarfod gwych a all ddarparu ar gyfer amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys cyfleusterau digidol i gael cyfarfodydd cyfunol.

Ystafell Gyfarfod yr Islawr

Gellir gosod ein hystafell gyfarfod bwrpasol fwyaf ar gyfer nifer o gynlluniau gan gynnwys ystafell fwrdd, ystafell ddosbarth neu gyfweliad. Mae gan yr ystafell sgrin fideo fawr ar gyfer cyflwyno. Mae taflunydd ar gael hefyd.

Uchafswm o bobl mewn arddull Theatr: 20 / Uchafswm o bobl mewn arddull Ystafell Ddosbarth: 10

Ystafell Gyfarfod y Llawr Cyntaf

Mae’r ystafell hon yn ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, sesiynau gwaith a chyfarfodydd llai. Mae sgrin arddangos fideo ar gael. Mae gan yr ystafell olau naturiol yn ogystal â goleuadau uwchben.

Uchafswm o bobl: 2 – 6