THEATR Y SHERMAN YN LANSIO CYNLLUN BWRSARIAETH YN DILYN ULTRAMARATHON 200 MILLTIR I GODI ARIAN

Announcements
Mae rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman wedi cyhoeddi cynllun bwrsariaeth newydd sbon i blant ac oedolion sy'n profi rhwystrau ariannol i gymryd rhan yn y celfyddydau.

Mae rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman wedi cyhoeddi cynllun bwrsariaeth newydd sbon i blant ac oedolion sy’n profi rhwystrau ariannol i gymryd rhan yn y celfyddydau.

Mae’r cynllun yn dod yn sgil ultramarathon Wild Horse 200 Mike Morgan ym mis Ebrill. Trwy dudalen codi arian torfol, digwyddiadau codi arian a nawdd, cododd £5,788 i sefydlu’r cynllun.

Yn oll, bydd naw cyfle bwrsariaeth i ymuno ag un o grwpiau Ymgysylltu Creadigol y Sherman:

  • un ar gyfer Sherman Sherbets, sy’n cynnig sesiynau creadigol wythnosol i blant Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 3;
  • pedwar ar gyfer Theatr Ieuenctid Sherman, rhaglen theatr ieuenctid wythnosol i bobl wyth i 18 mlwydd oed;
  • dau ar gyfer Sherman Makers, grŵp theatr cymunedol i unrhyw un 18 oed a hŷn sy’n Fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, yn rhannol ddall, yn anabl a/neu yn niwroamrywiol; a
  • dau ar gyfer Sherman Players, grŵp theatr an-broffesiynol y cwmni ar gyfer pobl 18 oed a hŷn

Daw’r cyhoeddiad wrth i Theatr Ieuenctid Sherman roi’r cyffyrddiadau olaf i’w cynhyrchiad, Clueless in Cathays (23-25 Gorffennaf), wedi’i ysgrifennu gan yr aelodau a Gwen Morris, a’i gyfarwyddo gan Francesca Pickard ac arweinwyr y theatr ieuenctid. Perfformiodd Sherman Players eu cynhyrchiad o buckets (9-11 Gorffennaf), wedi’i ysgrifennu gan Adam Barnard a’i gyfarwyddo gan Duncan Hallis, yn gynt ym mis Gorffennaf.

Mae Mike ei hun wedi bod yn gyfranogwr yn rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman; yn gyn-Sherman Player ac yn aml yn aelod o Gorws y Gymuned, mae wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad ar brif lwyfan y Sherman, gan gynnwys A Midsummer Night’s Dream, Tales of the Brothers Grimm ac Odyssey ’84 . Ym mis Hydref 2025 roedd yn un o grŵp o redwyr a gwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd er budd Cronfa Rhannwch Eich Angerdd y Sherman.

Dywedodd Mike: “Pan gychwynnais ar yr her hon, roeddwn i’n gobeithio y byddai’n gwneud gwahaniaeth. Mae codi bron i £6,000 ar gyfer bwrsari Theatr y Sherman ymhell y tu hwnt i unrhyw beth a ddychmygais, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth, y caredigrwydd a’r haelioni a gefais. Mae gwybod y bydd yr arian hwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol a rhoi cyfle i fwy o bobl gymryd rhan yn rhaglenni Theatr y Sherman yn gwneud y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.”

Dywedodd Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu Theatr y Sherman: “Rydym wrth ein bodd yn gallu lansio ein rhaglen bwrsariaethau, rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl heb waith codi arian Mike a haelioni’r holl bobl a’i rhoddodd a’i gefnogodd. Mae gennym y gallu nawr i gynnig bwrsariaethau o fis Medi ymlaen ac, er mwyn cynnal y cyfle yn y tymor hir, byddwn yn parhau i godi arian i’r rhaglen.”

Dywedodd Francesca Pickard, Pennaeth Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman: “Rydym yn credu bod mynediad at greadigrwydd a hunanfynegiant yn hawl ac rydym yn ymdrechu’n gyson i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad. Bydd y bwrsari hwn yn mynd yn bell tuag at ein nod o sicrhau bod gan bawb y cyfle i gael eu cyfoethogi gan gelfyddyd y theatr.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun bwrsariaeth, gan gynnwys y meini prawf ymgeisio a chymhwysedd, cysylltwch â francesca.pickard@shermantheatre.co.uk. Bydd ceisiadau’n agor ym mis Awst.